Salmau 30
30
SALM 30
Dyrchafu’r Arglwydd
Cwmgiedd 76.76.D
1-3Dyrchafaf di, O Arglwydd,
Am iti f’achub i.
Gwrthodaist i’m gelynion
Fy ngwneud yn destun sbri.
O Arglwydd, gwaeddais arnat,
A daethost i’m hiacháu;
Fe’m dygaist i i fyny
O Sheol, a’m bywhau.
4-5Chwychwi ffyddloniaid, rhoddwch
I’r Arglwydd fawl ar gân,
A rhoddwch ddiolch beunydd
I’w enw sanctaidd, glân.
Am ennyd y mae’i ddicter,
Am oes ei ffafrau mawr;
A thry wylofain heno’n
Llawenydd pan ddaw’r wawr.
6-9Dywedwn yn fy hawddfyd,
“Byth ni’m symudir i”,
Ond siglwyd fy nghadernid
Pan guddiwyd d’wyneb di.
Ymbiliais am drugaredd,
Gan ddweud, “Pa les a fydd
O’m marw, os disgynnaf
I bwll y beddrod prudd?
10-12A all y llwch byth foli
Dy lân wirionedd di?
O Arglwydd, bydd drugarog,
A chynorthwya fi.”
Fe droist sachliain f’adfyd
Yn wisg i ddawnsio’n llon.
Hyd byth, fy Nuw, fe’th folaf
Am y drugaredd hon.
Aktuálne označené:
Salmau 30: SCN
Zvýraznenie
Zdieľať
Kopírovať

Chceš mať svoje zvýraznenia uložené vo všetkých zariadeniach? Zaregistruj sa alebo sa prihlás
© Gwynn ap Gwilym 2008