Salmau 28
28
SALM 28
Bendigedig fyddo’r Arglwydd
Blaen-wern 87.87.D
1-2Arglwydd, arnat ti y gwaeddaf;
Na thro fyddar glust i’m cri,
Rhag im fod fel rhai sy’n feirw
Yn y bedd, ond gwrando fi.
Gwrando lef fy ngweddi am gymorth
Pan wy’n codi ’nwylo fry
Tua’th gysegr sancteiddiolaf,
Lle preswyli yn dy dŷ.
3-5Paid â’m cipio ymaith gyda
Phobl ddrwg y ddaear hon,
Sy’n wên deg yng ngŵydd cymdogion,
Ond sy â chynnen dan eu bron.
Rho di iddynt hwy eu haeddiant
Am ddrygioni eu holl waith.
Difa hwy am d’anwybyddu,
A phaid byth â’u hadfer chwaith.
6-9Bendigedig fyddo’r Arglwydd.
Clywodd fi; fy nharian yw.
Ymddiriedaf yn ei gymorth.
Rhoddaf fawl ar gân i’m Duw.
Mae’n achubiaeth i’w eneiniog,
Ac yn nerth i’w bobl byth mwy.
Gwared a bendithia d’eiddo,
Arglwydd, a’u bugeilio hwy.
Aktuálne označené:
Salmau 28: SCN
Zvýraznenie
Zdieľať
Kopírovať

Chceš mať svoje zvýraznenia uložené vo všetkých zariadeniach? Zaregistruj sa alebo sa prihlás
© Gwynn ap Gwilym 2008