Salmau 18
18
SALM 18
Diolch am waredigaeth
Lobe den Herren 14.14.4.7.8
1-3Caraf di, Arglwydd, fy nghryfder, fy nghraig a’m gwaredydd,
Duw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nghaer, fy achubydd.
Gwaeddaf ar Dduw,
Cans fy ngwaredwr i yw
Rhag fy ngelynion aflonydd.
4-6Pan oedd marwolaeth a distryw yn clymu amdanaf,
Gwaeddais yn daer yn fy ngofid ar Dduw y Goruchaf.
Clywodd fy llef
O’i deml lân yn y nef.
Clywodd fy ngwaedd a daeth ataf.
7-10Crynodd y ddaear a gwegian; ysgydwodd y bryniau.
Daeth mwg o’i ffroenau; o’i gylch yr oedd marwor yn cynnau.
A daeth i lawr
Drwy’r nen fel tymestl fawr:
Marchog y gwynt a’r cymylau.
11-14Taenodd gymylau yn orchudd a chaddug yn guddfan;
Cenllysg a thân o’r disgleirdeb o’i flaen a ddaeth allan.
Daeth ei lais ef
Megis taranau o’r nef,
A’i fellt fel saethau yn hedfan.
15-17Gwelwyd gwaelodion y môr, a dinoethwyd holl seiliau’r
Byd gan dy gerydd di, Arglwydd, a chwythiad dy ffroenau.
Tynnodd ef fi
O ddyfroedd cryfion eu lli.
Gwaredodd fi o’m holl frwydrau.
18-19Daethant i’m herbyn yn lluoedd yn nydd fy nghaledi,
Ond fe fu’r Arglwydd fy Nuw yn gynhaliaeth driw imi.
Dug fi o’r tân
I le agored a glân,
Am ei fod ef yn fy hoffi.
20-24Talodd yr Arglwydd i mi yn ôl glendid fy nwylo,
Am imi gadw ei lwybrau, heb droi oddi wrtho.
Cedwais o hyd
Ei holl gyfreithiau i gyd:
Cedwais fy hun rhag tramgwyddo.
25-27Rwyt ti’n ddi-fai i’r di-fai, ac yn ffyddlon i’r ffyddlon,
Pur i’r rhai pur, ond yn wyrgam i bawb sy’n elynion.
Yr wyt yn hael
At y rhai gwylaidd a gwael,
Ac yn darostwng y beilchion.
28-30Ti sy’n goleuo fy llusern, yn troi nos yn nefoedd.
Trwot ti neidiaf dros fur a goresgyn byddinoedd.
Tarian o ddur,
Profwyd ei air ef yn bur.
Perffaith yw Duw’n ei weithredoedd.
31-33Pwy ond ein Duw ni sydd graig? Pwy sydd Dduw ond yr Arglwydd?
Rhydd imi nerth, ac fe’m tywys ar lwybrau perffeithrwydd.
Trwy’i rym fe wnaed
Fel carnau ewig fy nhraed:
Troediaf fynyddoedd mewn sicrwydd.
34-37Ef sy’n fy nysgu i ryfela, i dynnu y bwa.
Rhoes imi darian i’m harbed; â’i law fe’m cynhalia.
Ni lithraf byth,
Cans mae fy llwybrau mor syth.
Daliaf elynion a’u difa.
38-41O dan fy nhraed y syrthiasant, ac rwy’n eu trywanu.
Ti a’m gwregysaist â chryfder a nerth i’w gorchfygu.
Rhoddaist fy nhroed
Ar eu gwegilau’n ddi-oed,
Ac ni ddaw neb i’w gwaredu.
42-45Malaf hwy’n fân, ac fe’u sathraf fel llaid ar y strydoedd.
Ti sy’n fy ngwneud, wedi’r brwydro, yn ben ar genhedloedd.
Mae estron rai’n
Plygu o’m blaen dan eu bai;
Deuant mewn ofn o’u cuddleoedd.
46-48Byw yw yr Arglwydd fy Nuw, ac y mae’n fendigedig.
Bydded y Duw sy’n rhoi dial i mi’n ddyrchafedig.
Gwaredodd fi
Rhag fy ngelynion di-ri
A’m gwrthwynebwyr ystyfnig.
49-50Felly, clodforaf di, Arglwydd, ymysg y cenhedloedd.
Cedwi yn ffyddlon i’th frenin eneiniog byth bythoedd;
Ac ym mhob gwlad
Fe ddiogelir mawrhad
Dafydd a’i had yn oes oesoedd.
Aktuálne označené:
Salmau 18: SCN
Zvýraznenie
Zdieľať
Kopírovať
Chceš mať svoje zvýraznenia uložené vo všetkých zariadeniach? Zaregistruj sa alebo sa prihlás
© Gwynn ap Gwilym 2008