Hosea 8
8
PEN. VIII.—
1At dy safn ag udgorn#dy enau fel corn ac fel eryr yn erbyn. Syr.
Fel yr eryr yn erbyn tŷ yr Arglwydd;
Am iddynt droseddu fy nghyfamod;
A phechu#a chodi. Syr. o honynt yn erbyn fy nghyfraith.
2Arnaf fi y llefant;
Fy Nuw,#Oh! Dduw ni a’th. LXX ein Duw. Syr. nyni Israel, a’th adwaenom.
3Israel a wrthododd ddaioni:
Gelyn a’i herlid#erlidiasant elyn. LXX. yntau.
4Hwy a wnaethant freninoedd,#iddynt eu hunain y breniniaethasant. LXX. hwy eu hunain a deyrnasasant, ac nid oddi wrthyf fi. Vulg., Syr.
Ond nid trwof fi;
Gwnaethant dywysogion,
Ac nis gwybum:#ni roisant wybod i mi. Syr., LXX.
Eu harian, a’u haur, a wnaethant iddynt yn ddelwau;
Fel y torer hwynt ymaith.
5Ffiaidd#drewllyd, ffieiddiodd. cyfeiliornasant trwy dy lo. Syr. taflwyd ymaith dy. Vulg. sych ymaith dy lo. LXX. yw dy lo di Samaria;
Cyneuodd fy nig wrthynt:
Hyd ba hyd na fedrant ddiniweidrwydd.#burdeb, uniondeb. ymlanhau yn Israel. LXX. gael eu glanhau. Vulg.
6Canys o Israel y bu efe;#o Israel y mae yntau. Vulg.
Crefftwr a’i gwnaeth,
Ac nid Duw yw efe;
Canys yn ddrylliau#gwyrni. Syr. y bydd llo Samaria.
7Canys gwynt a hauant a chorwynt a fedant;
Yr ŷd, ni bydd corsen iddo,
Ni wna flawd;
Os gwna:
Dyeithriaid a’u llyncant.
8Israel a lyncwyd:
Yn awr aethant yn mysg y cenedloedd;
Fel llestr heb hoffder#diddefnydd. LXX. heb werth. Syr. aflan. Vulg. ynddo.
9Canys hwy a aethant i fyny i Assuria;#at Assur.
Asyn gwyllt, unig iddo ei hun#tyfodd Ephraim wrtho ei hun. LXX. yw Ephraim;
Cyflogasant#Ephraim a roisant roddion i. Vulg. hoffasant roddion. LXX. gariadau.
10Hefyd er iddynt gyflogi#am hyny traddodir hwynt yn mysg y. LXX., Syr. cyflogasant genedloedd. Vulg. yn mysg y cenedloedd,
Yn awr mi a’u casglaf#derbyniaf hwynt. LXX. hwynt:
Ac ymofìdiant ychydig am y baich,#o, am eneinio brenin a thyw. LXX. am faich brenin, tywysogion. Vulg. gorphwysant ychydig rhag baich breninoedd a thywysogion. Syr.
Yn frenin, yn dywysogion.
11O herwydd amlhaodd Ephraim allorau#allorau: yn bechodau iddo y bu allorau anwyl. LXX. at bechu:
Buont iddo yn allorau at bechu.
12Ysgrifenwn iddo bethau mawrion#ysgrifenaf iddo luaws: a’i gyfreithiau a gyfrifwyd. LXX. amrywddeddfau. Vulg. fy nghyfraith:
Fel dyeithr beth y cyfrifwyd#cyfrifodd. Syr. hwynt.
13Yn aberthau dyledus#am hyny os aberthant aberth a bwyta o honynt. LXX. aberthau a offrymant, a chig a fwytant. Vulg. aberth dewisol a aberthant. Syr. i mi,
Yr aberthant gig ac a’i bwytant;
Yr Arglwydd nid yw foddlon iddynt:
Yn awr efe a gofia eu hanwiredd, ac a ofwya eu pechodau;
Hwy a ddychwelant#troant, troisant i’r— ac yn Assuria y maent yn bwyta pethau aflan. LXX. a droir. Vulg. i’r Aipht.
14Ac annghofiodd Israel ei Wneuthurwr,
Ac a adeiladodd demlau:#balasau.
A Judah a amlhaodd ddinasoedd caerog:
Ond myfi a anfonaf dân yn ei ddinasoedd#ei dinasoedd.
Ac efe a ysa ei phalasau.
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Hosea 8: PBJD
සළකුණු කරන්න
බෙදාගන්න
පිටපත් කරන්න
ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.