1
Genesis 22:14
beibl.net 2015, 2024
bnet
Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy’n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae’r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.”
සසඳන්න
Genesis 22:14 ගවේෂණය කරන්න
2
Genesis 22:2
Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti’n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o’r mynyddoedd. Bydda i’n dangos i ti pa un.”
Genesis 22:2 ගවේෂණය කරන්න
3
Genesis 22:12
“Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i’n gwybod bellach dy fod ti’n ddyn sy’n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.”
Genesis 22:12 ගවේෂණය කරන්න
4
Genesis 22:8
“Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i’w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma’r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda’i gilydd.
Genesis 22:8 ගවේෂණය කරන්න
5
Genesis 22:17-18
dw i’n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. Byddan nhw’n concro dinasoedd eu gelynion. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddwedais i.’”
Genesis 22:17-18 ගවේෂණය කරන්න
6
Genesis 22:1
Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie? Dyma fi,” atebodd Abraham.
Genesis 22:1 ගවේෂණය කරන්න
7
Genesis 22:11
Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o’r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham.
Genesis 22:11 ගවේෂණය කරන්න
8
Genesis 22:15-16
Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto. “Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti’n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti)
Genesis 22:15-16 ගවේෂණය කරන්න
9
Genesis 22:9
Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe’n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor.
Genesis 22:9 ගවේෂණය කරන්න
නිවස
බයිබලය
සැලසුම්
වීඩියෝ