Ioan 14
14
A.D. 33. —
1 Crist yn cysuro ei ddisgyblion â gobaith teyrnas nef: 6 yn proffesu mai efe yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; a’i fod yn un â’r Tad: 13 yn gwarantu y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn ffrwythlon: 15 yn dymuno cariad ac ufudd‐dod: 16 yn addo yr Ysbryd Glân y Diddanydd; 27 ac yn gadael ei dangnefedd gyda hwynt.
1Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd. 2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. 3Ac #Pen 14:18, 28os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel #Pen 12:26; 17:24lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. 4Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch. 5Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd? 6Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw’r #Heb 9:8ffordd, a’r #Pen 1:17gwirionedd, a’r #Pen 1:4; 11:25bywyd: #Pen 10:9nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi. 7Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef. 8Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. 9Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? #Pen 12:45Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 10Onid wyt ti yn credu #Ad. 20 Ioan 10:38; 17:21, 23fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, #Pen 5:19; 8:28; 12:49nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 11Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 12#Mat 21:21; Marc 16:17Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. 13#Mat 7:7; 21:22; Marc 11:24; Ioan 15:7, 16; 16:23; 1 Ioan 3:22; 5:14A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.
15 #
Pen 14:21, 23; Ioan 15:10, 14; 1 Ioan 5:3O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. 16A mi a weddïaf ar y Tad, ac #Pen 15:26; 16:7; Rhuf 8:15, 26efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; 17#Pen 15:26; 16:13Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. 18#Mat 28:20Ni’ch gadawaf chwi yn #14:18 anghysurus.amddifaid: #Pen 14:3, 28mi a ddeuaf atoch chwi. 19Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr #Pen 16:16chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. 20Y dydd hwnnw y gwybyddwch #Ad. 10 Ioan 10:38; 17:21, 23, 26fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. 21#Ad. 15; 1 Ioan 2:5; 5:3Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. 22Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd? 23Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, #Ad. 15Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a #1 Ioan 2:24; Dat 3:20nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef. 24Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: #Ad. 10 Ioan 5:19, 38a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i. 25Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. 26Eithr #Ad. 16y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe #Pen 12:16; 16:13; 1 Ioan 2:20, 27a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi. 27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned. 28Clywsoch fel #Pen 14:3, 18y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae #Edrych Ioan 5:18; Phil 2:6fy Nhad yn fwy na myfi. 29Ac #Pen 13:19yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. 30Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: #Pen 12:31canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi. 31Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac #Pen 10:18megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.
Selectat acum:
Ioan 14: BWM1955C
Evidențiere
Partajează
Copiază
Dorești să ai evidențierile salvate pe toate dispozitivele? Înscrie-te sau conectează-te
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society