Logotipo da YouVersion
Ícone de Pesquisa

Versões da Bíblia

Proffwydi ac Epistolau 1852-62 (John Owen)

Welsh, Galés

 John Owen

Ganwyd John Owen ym 1788, yn fab i Owen ac Elinor Owen, o fferm Cilerwisg, ger Llanbedr-Pont-Steffan yn Sir Aberteifi. Methodistiaid Calfinaidd oedd ei rieni. Addysgwyd John Owen yn Ystradmeurig. In 1811 ordeiniwyd ef yn ddiacon Anglicanaidd yn Llanelwy, ac yna fel offeiriad ym 1812. Gwasanaethodd fel Curad yn Hirnant, Sir Drefaldwyn 1811-13. Yna gwasanaethodd yn St Martin’s yng Nghaerlyr, ac o 1833 fel Curad Cyflogedig yn Gaddesby, ac o 1845 fel Ficer Holy Trinity, Thrussington yn Swydd Gaerlyr, gan ddod yn ddeon gwlad yn 1853.

Teulu

Priododd Dorothy Bosworth yn Spratton, Swydd Gaerlyr ym 1820. Ganwyd iddynt ddwy ferch, Matilda ‘Matty’ Maria Owen a anwyd ym 1821 a Selina ‘Lina’ Bosworth Owen a anwyd yn 1823. Priododd Matilda y Parch Henry Smith yn Thrussington yn 1849, ac roeddent yn byw yn St Albans Swydd Hertford lle bu'n ficer. Bu farw Dorothy, gwraig John yn 1857 yn 75 oed. Yna bu farw John Owen ei hun yn St Albans ar 31ain Gorffennaf 1867 yn 80 oed. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys yn Thrussington. Bu farw Selina Bosworth Owen yn St Albans ar 5ed o Ragfyr 1878 yn 55 mlwydd oed, ac fe'i claddwyd gyda'i rhieni yn Thrussington. Nid oes carreg na chofeb iddi.

Cyfieithiadau

Cyfieithiodd ac ysgrifennodd John Owen nifer o lyfrau yn y Saesneg a'r Gymraeg. Ysgrifenodd gofiant y Parch. Daniel Rowlands yn 1840, a'r Parch. Thomas Jones, Creaton yn 1851. Rhwng 1849 a 1855 cyfieithodd nifer o esboniadau John Calvin ar y Proffwydi Bach a'r Epistolau Cyffredinol o'r Lladin i'r Saesneg, ac fe'i cyhoeddwyd gan y Calvin Translation Society. Maent yn dal mewn print. Maent yn cynnwys rhai adnodau yn y Gymraeg. Defnyddiodd Owen yr adnodau Cymraeg hyn fel enghreifftiau yn ei gyfieithiadau o Esboniadau John Calvin. Mae'r adnodau hyn wedi eu cynnwys mewn atodiad.

Yna cyfieithodd John Owen y proffwydi bach a'r epistolau cyffredinol o'r Hebraeg a'r Roeg i'r Gymraeg. Cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Epistol Paul at y Rhufeiniaid yn 1850. Yna cyhoeddwyd ei gyfieithiad o'r proffwydi bach yn Y Traethodydd: Habacuc a Hosea yn 1852, Micha yn 1853, yna Galarnad Ieremia, Jona ac Obadeia yn 1856. Yn 1862 cyhoeddodd yr Epistolau Cyffredinol o Iago i Jwdas, gyda nodiadau ac atodiaidau.

Argraffiad Digidol

Mae'r cyfieithiadau hyn wedi eu digideiddio yn 2021 i Gymdeithas y Beibl, fel rhan fel rhan o brosiect Digideiddio Ysgrythurau Cymraeg. Mae'r casgliad hwn wedi ei ddwyn ynghyd am y tro cyntaf, dan y teitl Proffwydi ac Epistolau 1852-62 (John Owen).

English:

John Owen

John Owen was born in 1788, the son of Owen and Elinor Owen, of Cilerwisg Farm, near Lampeter in Cardiganshire. His parents were Calvinistic Methodists. John Owen was educated at Ystradmeurig. In 1811 he was ordained as an Anglican deacon at St Asaph, and then as a priest in 1812. He served as curate at Hirnant, Montgomeryshire 1811-13. Then he served at St Martin’s in Leicester, and from 1833 as Stipendiary Curate at Gaddesby, and from 1845 as Vicar of Holy Trinity, Thrussington in Leicestershire, becoming rural dean in 1853.

Family

He married Dorothy Bosworth in Spratton, Leicestershire in 1820. They had 2 daughters Matilda ‘Matty’ Maria Owen born 1821 and Selina ‘Lina’ Bosworth Owen born 1823. Matilda married Rev Henry Smith at Thrussington in 1849, and they lived at St Albans in Hertfordshire where he was vicar. John’s wife Dorothy died in 1857 aged 75. John Owen died at St Albans on 31st July 1867 aged 80. He was buried in the churchyard at Thrussington. Selina Bosworth Owen died in St Albans on 5 December 1878 aged 55, and is buried with her parents at Thrussington. There is no stone nor memorial.

Translations

John Owen translated and wrote many books in English and in Welsh. He wrote memoirs of the Rev. Daniel Rowlands in 1840, and to Rev. Thomas Jones of Creaton in 1851. Between 1849 and 1855 he translated many of John Calvin’s commentaries on the Minor Prophets and the General Epistles from Latin into English, which were published by the Calvin Translation Society. They are still in print. These include a few verses in Welsh. Owen used these verses as examples in his English translations of John Calvin's Commentaries. These verses are included in an appendix of selections.

John Owen then translated many of these books on the prophets and the epistles, from Hebrew and Greek into Welsh. His translation of Romans was published in 1850. His translation of the prophets with notes were published in instalments in Y Traethodydd: Habakkuk and Hosea in 1852, Micah in 1853, and then the Lamentations of Jeremiah , Jonah and Obadiah in 1856. In 1862 he published the General Epistles from James to Judas with notes and appendices.

Digital Edition

These Welsh translations items have been digitised for the Bible Society, as part of the Welsh Digitisation project in 2021. This collection has been brought together for the first time, and has been called Proffwydi ac Epistolau (Prophets and Epistles) 1852-62 (John Owen). 


British & Foreign Bible Society

CJO EDITOR

Saiba Mais

Outras Versões por British & Foreign Bible Society