Ioan 19:26-27
Ioan 19:26-27 BCND
Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.” Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.