Psalmau 23
23
Y Psalm. XXIII. Englyn proest kyfnewidiog.
1Vw yw mugail, arail em,
Ni’ bydh (Dvw a rydh da rym)
Arnaf er a gaf o gam
Diau o stad eisiau dim.
2Gwnaiff ym orwedh gyfedh goel
Mewn porfa las vrdhas wyl:
Am twysaw yn hylaw hael
Dhifyr ior wrth dhwfr arail.
3Ym enaid gannaid mi a gaf
I thwyso wrth i dheisif
Mewn ffyrdh kyfiownder erof
Mewn awr er mwyn ei enwef
4A phe rhodiwn gwnn le gwag
Y dyphryn o dydhyn dig:
Kysgod angau ’n kau pob keg
Dyfnfodh ras nid ofnaf dhrwg.
Wyd gida mi rhi ar hynt
Dy wialen breisgwen brint:
Ath ffonn hoew vnion hwnt
Wrth Dhuw am kynnorthwyant.
5Arlwyaist ford ber lawen
Mwyna gwaith i minnau gwnn,
Ag yngwydh gyfarwydh fann
Yleni fyngelynion.
Ar fymhenn llawen ywr llwyth
Iraist ond teg yw ’r araith:
Mae fynghwpan gyfan goeth
Yn rhylawn gan ior helaeth.
6Karedigrwydh rwydh a red
A thrugaredh mowredh mad;
Dilynant fi dal vnnod
Oll dhydhiau mau fy mowyd.
Ag yn llonydh vfydh war
Draw gann hynn mi driga ’n hir.
Ynhuy dhuw ag yn hawdh ior
Yn dragowydh y bydh ber.
Atualmente selecionado:
Psalmau 23: SC1595
Destaque
Partilhar
Copiar

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.