Logótipo YouVersion
Ícone de pesquisa

Salmau 12

12
Salm XII.
I’r Pencerdd: ar yr wythfed: cerdd o eiddo Dafydd.
1Achub, Iehova; canys darfu y trugarog#12:1 trugarog, — y LXX. οσιος, sant; — Horsley, the godly-sort, y rhyw dduwiol; — Junius a Thremelius, beneficus, yr haelionus. Yr un gair yw ag a gyfieithir duwiol yn Salm 4:3. ;
Canys pallodd y ffyddloniaid#12:1 ffyddloniaid, y rhai a gredant y gwirionedd, ac a gadwant eu gair. Y cyntaf a feddylia Horsley, the race of the faithful, hil y crediniol; yr ail a olygir gan Junius, &c. veraces, a geirwir. o blith meibion dynion.
2Oferedd a lefarant bob un wrth ei gyfaill;
Gwefusau llyfnion! â chalon ddyblig y llefarant.
3Tyr Iehova holl wefusau llyfnion,
Y Tafod a lefaro fawreddau,#12:3 fawreddau,— pethau mawrion, chwyddedig, ymffrostgar. Y LXX. μεγαλορρημονα, mawreiriog. Horsley, proud-things, pethau balch.
4Y rhai a ddywedant — ‘A’n tafod y gorfyddwn,
Ein gwefusau, ein heiddo “ydynt,”
Pwy sydd Lywydd arnom?’
5‘Am ddifrod y gorthrymedig, am ochain y tlodion,
Yn awr cyfodaf,’ medd Iehova,
‘Gosodaf mewn diogelwch a chwyther ato#12:5 a chwyther ato, neu, “yr hwn” a chwyther yn ei erbyn. Gwel Salm 10:5. Mae’r llidiog megys yn chwyddo gan ddig, a chwytha yn ddirmygus at y rhai a ddigia wrthynt..’
6Geiriau Iehova, geiriau pur#12:6 geiriau pur, — pur oddiwrth bob anwir twyll, a rhagrith. “ydynt,”
Fel arian a goethwyd mewn tawddlestr pridd,
A doddwyd seithwaith.
7Ti, Iehova, a’u cedwi hwynt#12:7 hwynt, — sef, ei eiriau, ci addewidion. Felly y dealla Horsley y lle. — Ni, — nid oes un awdurdod i’w gyfieithu hwynt, na chwaith ef. Yr hyn a ddywed y Salmydd yw, y ceidw Duw ei eiriau, ac y diogela ei bobl.;
Diogeli ni rhag y genedl hon dros byth.
8O amgylch yr annuwiolion a rodiant,
Pan dderchafer gweddillion ar feibion dynion.#12:8 Mae’r annuwiolion megys yn dyfod allan o’u cuddfanau, ac yn rhodio yn gyhoedd, pan byddo dynion distadl, diegwyddor, gwehilion y bobl, o ran moesau, yn cael dyrchafiad yn y llywodraeth. Peth ofnog, annewr, cachgïaidd, yw Annuwiaeth, pan nas cefnoger gan uchelion. Ond daw allan i’r goleu yn dra hyf, a digywilydd, pan byddo’r mawrion neu’r lliaws yn ei gymmeradwyo. Yn y gwrthwyneb, dewr a diofn yw Duwioldeb: wyneba yn ddiysgog guwch a dirmyg y boneddig, ynghyd â chynddaredd a gwallgof y werinos.

Atualmente selecionado:

Salmau 12: TEGID

Destaque

Partilhar

Copiar

None

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão