Logótipo YouVersion
Ícone de pesquisa

S. Ioan 2

2
1A’r trydydd dydd, priodas oedd yn Cana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno; 2a galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. 3A chwedi pallu o’r gwin, dywedodd mam yr Iesu Wrtho, Gwin nid oes ganddynt. 4Ac wrthi y dywedodd yr Iesu, Pa beth sydd i Mi a wnelwyf â thi, wraig? 5Ni ddaeth etto mo Fy awr. Dywedodd Ei fam wrth y gwasanaethwyr, Pa beth bynnag a ddywedo Efe wrthych, gwnewch. 6Ac yr oedd yno ddyfr-lestri meini, chwech o honynt, yn ol defod puredigaeth yr Iwddewon, yn sefyll, ac yn dal, bob un, ddau ffircyn neu dri. 7Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr: a llanwasant hwynt hyd at yr ymyl: 8a dywedodd wrthynt, Tynnwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. 9A phan archwaethodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethpwyd yn win, ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr a wyddent, sef y rhai a dynnasant y dwfr), galw ar y priod-fab a wnaeth llywodraethwr y wledd, 10a dywedodd wrtho, Pob dyn a esyd yn gyntaf y gwin da; a phan feddwont, yr hwn sydd waelach; tydi a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. 11Hyn o ddechreu Ei arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilea, ac amlygodd Ei ogoniant; a chredu Ynddo a wnaeth Ei ddisgyblion.
12Wedi hyn yr aeth i wared i Caphernahwm, Efe a’i fam a’i frodyr ac Ei ddisgyblion; ac yno yr arhosasant nid nemmawr o ddyddiau.
13Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem. 14A chafodd yn y deml y rhai yn gwerthu eu hychen a defaid a cholommenod, a’r newidwyr arian yn eu heistedd: ac wedi gwneud fflangell o gyrt, bwriodd bawb allan o’r deml, ac y defaid, ac yr ychen; 15ac i’r newidwyr arian y tywalltodd allan eu harian, ac eu byrddau a ddymchwelodd Efe; 16ac wrth y rhai yn gwerthu’r colommenod y dywedodd, Cymmerwch y pethau hyn oddi yma; na wnewch dŷ Fy Nhad yn dŷ marchnad. 17A chofiodd Ei ddisgyblion ei fod yn ysgrifenedig,
“Zel am Dy dŷ a’m hysodd.”
18Attebodd yr Iwddewon, gan hyny, a dywedasant Wrtho, Pa arwydd a ddangosi i ni, gan mai’r pethau hyn a wnei? 19Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Chwalwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. 20Dywedodd yr Iwddewon, gan hyny, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thydi mewn tridiau y’i cyfodi hi! 21Ond Efe a ddywedasai am deml Ei gorph. Gan hyny, 22pan gyfododd o feirw, cofiodd Ei ddigyblion mai hyn a ddywedasai; a chredasant yr Ysgrythyr a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23A phan yr oedd Efe yn Ierwshalem ar y Pasg, yn yr wyl, llawer a gredasant yn Ei enw, wrth weled Ei arwyddion Ef, y rhai a wnaethai; 24ond yr Iesu Ei hun nid ymddiriedodd Ei hun iddynt am Ei fod yn adnabod pawb, 25ac am nad oedd Iddo raid i neb dystiolaethu Iddo am ddyn, canys Efe Ei hun a wyddai pa beth oedd mewn dyn.

Atualmente selecionado:

S. Ioan 2: CTB

Destaque

Partilhar

Copiar

None

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão