Salmau 14
14
SALM 14
Ateb i’r anghredinwyr
Thanet 8.33.6
1Fe ddywedodd y rhai ynfyd,
“Nid oes Duw”.
Ffiaidd yw
Eu gweithredoedd bawlyd.
2Gwyrodd Duw o’i nef i chwilio
A oedd un
Ar ddi-hun
A oedd yn ei geisio.
3Ond mae pawb yn cyfeiliorni.
Nid oes neb,
Nac oes, neb,
Sydd yn gwneud daioni.
4Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.
Oni bydd
Cosb ryw ddydd
Ar y rhai drygionus?
5A’r pryd hynny fe fydd gyflawn
Maint eu braw,
Cans fe ddaw’r
Arglwydd at y cyfiawn.
6Er i chwi ddirmygu cyngor
Y rhai gwael,
Y Duw hael
Yw eu noddfa a’u hangor.
7Pan adferir i’r iselwael,
Lwydd a budd,
Mawr iawn fydd
Gorfoleddu Israel.
Atualmente selecionado:
Salmau 14: SCN
Destaque
Partilhar
Copiar

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão
© Gwynn ap Gwilym 2008