Salmau 11
11
SALM 11
Llochesu yn Nuw
Dusseldorf 87.87.D
1-3Yn yr Arglwydd cefais loches.
Beth yw diben dweud mor ffôl:
“Ffo i’r mynydd fel aderyn”,
A’r drygionus ar fy ôl?
Plyg ei fwa, yna saethu
Yn y caddug at y da.
Os dinistrir y sylfeini,
Yr un cyfiawn – beth a wna?
4-7Gwêl yr Arglwydd ar ei orsedd
Yn ei deml yn y nef
Ni feidrolion, ac fe’n profir
Gan ei lygaid tanbaid ef.
Glawia farwor tân a brwmstan
Ar y drwg, a gwynt di-hedd.
Cyfiawn yw, a châr gyfiawnder.
Caiff yr uniawn weld ei wedd.
Atualmente selecionado:
Salmau 11: SCN
Destaque
Partilhar
Copiar

Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão
© Gwynn ap Gwilym 2008