Actau’r Apostolion 19:11-12
Actau’r Apostolion 19:11-12 BWM1955C
A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul: Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a’r clefydau a ymadawai â hwynt, a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.