Genesis 15

15
PEN. XV.
Duw yn amddeffynniad, ac yn wobr i Abram. 4. Addo Isaac. 6. ffydd Abram yn ei gyfiawnhau. Duw yn addo gwlâd Canaan i Abram. 13. Caethiwed Israel yn yr Aipht, ai ryddhâd.
1Wedi y pethau hynn y daeth gair yr Arglwydd at Abram, #Numb.12.6.mewn gweledigaeth gan ddywedyd: nac ofna Abram, my fi [ydwyf] dy darian, dy wobr [sydd] fawr iawn.
2Yna y dywedodd Abram, Arglwydd Dduw bêth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, a’r mâb y gadewir iddo fy nhŷ yw Eleazar o Ddamascus.
3Abram hefyd a ddywedodd wele ni roddaist i mi hâd, ac wele, fyng-haethwas fydd fy etifedd.
4Ac wele air yr Arglwydd atto ef gan ddywedyd: nid hwn fydd dy etifedd, onid vn a ddaw allan o’th groth di fydd dy etifedd.
5Yna efe ai dug ef allan, ac a ddywedodd, golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr o gelli di eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd #Rhuf.4.18.felly y bydd dy hâd ti.
6Yntef a #Rhuf.4.3.gredodd yn yr Arglwydd, a #Iames.2.23.|JAS 2:23. Galat.3.6.chyfrifwyd hynny iddo yn gyfiawnder.
7Ac efe a ddywedodd wrtho, myfi [ydwyf] yr Arglwydd yr hwn ath ddygais di allan o #Gen.11.28.Ur y Caldeaid i roddi i ti y wlad hon iw hetifeddu.
8Yntef a ddywedodd, Arglwydd Dduw trwy ba bêth y câf wybod yr etifeddaf hi?
9Ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chiw colommen.
10Ac efe a gymmerth iddo y rhai hyn oll, ac ai holltodd hwynt ar hyd [eu] canol, ac a roddodd bôb rhann ar gyfer ei gilydd, ond ni holltodd efe yr adar.
11Pan ddescynne yr adar ar y burgynnod yna Abram ai gwylltie hwynt.
12A phan oedd yr haul at fachludo y syrthiodd trym-gwsc ar Abram: ac wele ddychryn, [a] thywyllni mawr yn syrthio arno ef.
13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, #Act.7.6.gan wybod gwybydd di y bydd dy hâd yn ddieithr mewn gwlad nid [yw] eiddynt, ac ai gwasanaethant hwynt, a hwyntau ai cystuddiant bedwar-can mlhynedd.
14A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farna fi, ac wedi hynny y deuant allan a chyfoeth mawr,
15A thi a ddeui at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
16Ac [yn] y bedwaredd oes y dychwelant ymma am na chyflawnwyd hyd yn hynn anwiredd yr Amoriaid.
17A phan fachludodd yr haul yr oedd tywyllwch, ac wele ffwrn yn mygu, a phentewyn tân yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
18Yn y dydd hwnnw #Gene.12.7. Gen.13.15.y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod ag Abram gan ddywedydd: i’th hâd ti y rhoddais y wlad hon, #1.Brenh.4.21|1KI 4:21. 2.Chron.9.26o afon yr Aipht hyd yr afon fawr [sef] afon Euphrates.
19Y Ceniaid, a’r Ceneziaid, a’r Cadmoniaid.
20Yr Hethiaid hefyd, a’r Phereziaid, a’r Raphiaid.
21Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Iebusiaid.

Marker

Del

Kopier

None

Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på