Lyfr y Psalmau 31
31
1Hyderais ynot, Arglwydd Ner,
Na waradwydder f’ enaid gwan;
Yn dy gyfiawnder gwared fi,
Poed dy gyfiawnder immi ’n rhan.
2Gogwydda ’th glust at lais fy nghri,
Heb oedi gwared f’ enaid gwael;
Bydd immi ’n Graig o nerth, yn Dŵr,
Yn nawdd o ras a Noddwr hael.
3Fy Nghraig o nerth i’m gwared wyt,
Fy Nghastell ydwyt rhag y drwg;
Arwain er mwyn dy glod dy was,
I lwybrau gras fy nghamrau dwg.
4Tyn fi o’r rhwyd a daenwyd im’;
Ti yw fy ngrym mewn anial dir:
5Gorch’mynaf f’ yspryd i’th law Di;
Gwaredaist fi, O Arglwydd gwir.
6Y sawl ar ofer wagedd byd
A roddo ’i fryd, un atgas yw;
Myfi yn Enw ’r Arglwydd Naf
Gobeithio wnaf tra byddaf byw.
7Llawen a hyfryd yw dy was
Am ddawn dy ras, trugaredd gu;
Ti welaist f’ ing, a’m henaid prudd
Arddelaist yn ei gystudd du.
8Ac ni warchaeaist arnaf chwaith
Yn llaw fy niffaith elyn mawr,
Ond rhoist fy enaid caeth yn rhydd,
Ac eang fydd fy llwybrau ’n awr.
YR AIL RAN
9Mae’n gyfyng arnaf, Arglwydd,
Yn rasol trugarhâ;
Fy llygad a ddadwinodd.
A’m calon, gan fy mhla;
10Blynyddau f’ oes sy ’n pallu
Gan boen ac ochain dwys,
A’m nerth a wywodd ymaith, —
Mae ’m bai mor drwm ei bwys.
Mae f’ esgyrn oll yn pydru,
11Fe’m gwawdia ’r gelyn cas;
Fe ’m gwawdia ’n fwy ’nghym’dogion
A’u creulon eiriau cras:
I’r rhai sydd yn f’ adnabod
’Rwy ’n ddychryn ac yn fraw;
Pan ddelont i’m cyfarfod,
Ymgroesant, ciliant draw.
12Gollyngodd pawb fi ’n anghof
O’u meddwl oll yn lân,
Fel marw, neu bridd‐lestryn
A wnaed yn ddarnau mân:
13Llaweroedd sy ’n f’ athrodi,
Mae dychryn ar bob tu;
Eu hamcan trwch yn f’ erbyn
Yw lladd fy mywyd cu.
14Ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,
Dywedais, “Ti yw ’m Duw;”
15F’ amserau oll sydd eiddot
I farw ac i fyw:
O gwared f’ enaid ofnog
O law f’ erlidwŷr cas;
16Llewyrcha ’th wyneb grasol
O’r nefoedd ar dy was.
17O achub f’ enaid, Arglwydd,
O’th fawr drugaredd rad;
Ti wyddost fel ’rwy ’n galw
Bob dydd ar d’ Enw mad;
Am hynny na ’m gwarthrudder,
Na wisged gwarth mo ’m gwedd;
Poed gwarth i’r annuwiolion,
Distawant yn y bedd.
Y DRYDEDD RAN
18Distêwch, yr holl wefusau gau,
Sy ’n traethu geiriau celyd cas
Yn erbyn cyfion blant Duw Ner,
Mewn gwawd a balchder croesder cras.
19Mor fawr i bawb a’th ofno ’n iawn,
Mewn hyder ffyddlawn ynot, Ner,
Yw ’r trysor o ddaioni pur
Sy ’nghadw gennyt uwch y ser!
20Yn nirgel gysgod d’ wyneb, Ion,
Rhag balchder dynion cuddi hwy;
Nid ofnant yn dy babell chwaith
Rhag drwg athrodus araith mwy.
Y BEDWAREDD RAN
21Bendigaid fyddo ’r Arglwydd Sant,
O barch a moliant teilwng yw;
Dangosodd im’ ei ryfedd ras
Ynghaerau cedyrn dinas Duw.
22Dywedais gynt mewn ffrwst a braw
“O’th olwg draw y’m bwriwyd i”;
Er hyn gwrandewaist ar fy llais
A’m gwaedd, pan lefais arnat Ti.
23Ei holl rai sanctaidd, cerwch Ion,
Efe a geidw ’i ffyddlon rai;
A helaeth iawn y tâl Duw Ner
I weithwŷr balchder am eu bai.
24Chwychwi, y sawl o galon sydd
A’ch hyder beunydd yn Nuw nef,
De’wch, ymwrolwch yn eich rhan,
Gwna ’ch calon eiddil wan yn gref.
Markert nå:
Lyfr y Psalmau 31: SC1850
Marker
Del
Kopier

Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.