Lyfr y Psalmau 23

23
1Fy Nuw yw Bugail f’ enaid gwan,
Byth ni ddaw eisiau ar fy rhan;
2Gorwedd a gaf mewn porfa fras
Ger dyfroedd tawel, peraidd flas.
3Fe ddychwel f’ enaid adre ’n ol
O’i grwydr a’i wrthgiliadau ffol;
Er mwyn ei fawl fe ’m harwain Ef
Ynghyfiawn ffyrdd a llwybrau ’r nef.
4Er rhodio dyffryn angau du,
Nid ofnaf niwaid, Arglwydd cu;
Wyt gyd â mi; dy wialen hedd
A’th ffon yw ’m cysur hyd y bedd.
5Arlwyi ’m bwrdd â gwledd dy ras
Yngŵydd fy holl elynion cas;
Enneini ’m pen â’th olew gwiw,
A’m phïol, llawn o fendith yw.
6Gras a daioni, (Duw a’u rhoes,)
A’m dilyn holl flynyddau f’ oes;
Preswyliaf finnau tra bwyf byw,
I ddïolch, ynghynteddau ’m Duw.

Marker

Del

Kopier

None

Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på