Pilatus a ddywedai wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croes-hoelier ef. A’r llywodraethwr a ddywedai, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes-hoelier ef.