Y Salmau 3

3
SALM III
Domine Quid?
Achwyn Dafydd wrth Dduw rhag Absalon ei fab, a’i blaid: a chysuri’r eglwys.
Caner hon fel Psalm I.
1O Arglwydd, amled ydyw’r gwyr,
y sydd drallodwyr imi:
A llawer iawn i’m herbyn sydd,
o ddydd i ddydd yn codi.
2Dwedai lawer o’r gwrthgyrch blaid
yn drwm am f’enaid eisoes:
Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,
chwaith mawr ystor o’r einiois.
3Tithau O Arglwydd ymhob man,
ydwyd yn darian ymy:
Fy ngogoniant wyt: tu a’r nen,
y codi ’ymhen i fyny,
4Ar Dduw yr Arglwydd a’m holl lais,
y gelwais yn dosturaidd.
Ac ef a’m clybu i ar frys,
o’i uchel freinllys sanctaidd.
5Mi orweddais, ac a gysgais,
ac mi a godais gwedi:
Canys yr Arglwydd oedd i’m dal,
i’m cynnal, ac i’m codi.
6Nid ofnaf fi, o’r achos hwn,
’mo fyrddiwn sydd yn barod:
O bobloedd, o’m amgylch yn dyn,
i’m herbyn wedi dyfod.
7Cyfod ti Arglwydd, achub fi,
drwy gosbi fy ngelynion:
Trewaist yr eu torraist eu daint,
er maint yr annuwiolion.
8I’r Arglwydd byth (o achos hyn)
y perthyn iechydwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith
ei fendith yn dra helaeth.

Terpilih Sekarang Ini:

Y Salmau 3: SC

Highlight

Kongsi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan merentas semua peranti anda? Mendaftar atau log masuk

YouVersion menggunakan kuki untuk memperibadikan pengalaman anda. Dengan menggunakan laman web kami, anda menerima penggunaan kuki kami seperti yang diterangkan dalam Polisi Privasi kami