Matthew 8
8
Iachâd y Gwahanglwyfus.
[Marc 1:40–45; Luc 5:12–15]
1Ac wedi ei ddyfod ef i waered o'r Mynydd, tyrfaoedd lawer a'i canlynasant ef. 2Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth ato, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os myni, ti a elli fy nglanhau i. 3Ac#8:3 Yr Iesu, L X; Gad. א B C Brnd. efe a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynaf, bydd lân. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 4A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel na ddywedi wrth neb; eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma y rhodd a benododd Moses, er tystiolaeth iddynt.#Lef 14:1–32
Iachâu Gwas y Canwriad.
[Luc 7:1–10]
5Ac wedi dyfod o hono i fewn i Capernaum, daeth ato Ganwriad, 6gan ddeisyfu arno, a dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas#8:6 Neu, fy machgen yn gorwedd#8:6 Llyth., wedi ei daflu (ar y gwely). gartref#8:6 Llyth., yn y ty. yn glaf o'r parlys, ac mewn poen#8:6 Basanizo (1) profi, (2) profi drwy boenydio, (3) poeni dirfawr. 7Ac efe a ddywed wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachaf#8:7 Yma defnyddir therapeuô, ystyr cyntaf yr hwn yw gwasanaethu; yna dynoda gwasanaethu, eu trin yn feddygol. Defnyddia y canwriad (adn. 8) air cryfach — iaomai, ystyr priodol yr hwn yw iachau. Defnyddir y ddau yn Luc 9:11, “Ac a iachaodd (iaomai) y rhai yr oedd eisieu triniaeth feddygol (therapeia) arnynt.” ef. 8A'r Canwriad a atebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid wyf deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed#8:8 Mewn (neu â) gair. [“Gorchymyn ag un gair.”] א B C L Brnd. Y gair [dywed y gair] Γ. mewn gair, a'm gwas#8:8 Neu, fy machgen a iacheir. 9Canys dyn ydwyf finau hefyd#8:9 Wedi ei osod [dan awdurdod] א B. Gad C L X. Brnd. [o Luc 7:8]. dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a ä; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy nghaethwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna. 10A'r Iesu, pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn canlyn, Yn wir, meddaf i chwi,#8:10 Felly, B, La. Tr. WH. Al.: Naddo, yn yr Israel ni chefais, &c. א C L X. Ti. Diw. gydag un dyn yn Israel ni chefais gymmaint ffydd. 11Ac yr wyf yn dywedyd i chwi y daw llawer o'r Dwyrain a'r Gorllewin, ac a eisteddant i lawr#8:11 Llyth., a led‐orweddant, a gyd‐eisteddant wrth fwrdd y wledd. gydag Abraham, ac Isaac, a Jacob yn Nheyrnas Nefoedd: 12ond meibion y deyrnas a deflir allan i'r tywyllwch y tu allan#8:12 Llyth., i'r tywyllwch y nesaf allan — y tywyllwch sydd y tu allan i ystafell y wledd.; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. 13A dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, Dos ymaith, megys y credaist, bydded i ti. A'r gwas a iachawyd yn yr awr hono.
Iachâu Chwegrwn Petr ac ereill.
[Marc 1:29–34; Luc 4:38–41]
14A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr#8:14 Neu, mam ei wraig. yn gorwedd#8:14 Llyth., wedi ei daflu (ar y gwely)., ac mewn twymyn. 15Ac efe a gyffyrddodd a'i llaw hi, a'r dwymyn a'i gadawodd hi; a hi a gododd, ac a weinyddodd#8:15 Iddo (neu arno) א B C Brnd.; arnynt L Δ. iddo.
16A phan ddaeth yr hwyr, hwy a ddygasant ato lawer o rai a feddiannid gan gythreuliaid, ac efe a fwriodd allan yr ysprydion â gair, ac a iachaodd yr holl gleifion, 17fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaiah y Proffwyd, gan ddywedyd.
“Efe a gymmerodd ein gwendidau, ac a ddug ymaith#8:17 Bastazo (1) cymmeryd i fyny mewn trefn i ddwyn (megys beichiau), (2) dwyn ymaith, symmud i ffwrdd. ein clefydau.”#Esaiah 53:4
Yn nghylch canlyn Crist.
[Luc 9:51–60]
18A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynodd ymadael i'r lan arall. 19A rhyw Ysgrifenydd a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych. 20A'r Iesu a ddywed wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd#8:20 Pholeos, gwâl, llochesfa, gorweddle, tudletty. [S., burrow, lurking‐hole, lair.], a chan ehediaid y nefoedd drigfanau#8:20 Llyth., gwersyllfaoedd, arosfanau. Nid yw nythod yn briodol. Gweler “Ystyriaethau,” &c.; ond gan Fab y Dyn nid oes le i roddi ei ben i orphwys. 21Ac un arall o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned ymaith a chladdu fy nhad. 22A'r Iesu a ddywed wrtho, Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.
Tawelu y dymhestl.
[Marc 4:35–41; Luc 8:22–25]
23Ac wedi myned o hono i gwch, ei Ddysgyblion a'i canlynasant ef. 24Ac wele bu cynhwrf#8:24 Seismos, ysgydwad, cyffro, terfysg. Dyma y gair a ddynoda ddaeargryn, Mat 24:7, &c. A achoswyd y cynnwrf hwn gan ddaeargryn, neu gan dymhestl? mawr yn y môr hyd oni chuddiwyd y cwch gan y tonau; eithr efe oedd yn cysgu. 25A#8:25 A daethant ato, א B Ti. Tr. WH. Diw.: A'i ddysgyblion a ddaethant ato, C X L Δ. Al. daethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, achub#8:25 Achub, א B C. Brnd Achub ni, L X., collir ni. 26Ac efe a ddywed wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr#8:26 Deilos, annewr, anwrol, digalon, llwfr‐ofnog. [S. cowardly.], O chwi o ychydig ffydd? Yna y cyfododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr. 27A'r dynion hefyd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo?
Gadara: Y Cythreuliaid a'r Moch.
[Marc 5:1–20; Luc 8:26–39]
28Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gadareniaid#8:28 Gadarneniaid, B C Δ M, 33. Syr. Brnd., Gergeseniaid, אc C3 L. 1, Memph. Goth. Geraseniaid, D, b c d, &c. Theb., gwel nodiad Marc 5:1., dau a feddiannid gan gythreuliaid a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent allan o blith y beddau#8:28 Mnêmeion (1) cofadail, monument — “Adeiladu beddau y proffwydi,” Luc 11:47; (2) Bedd, claddle — “A'r beddau a agorwyd,” Mat 27:52. yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd hono. 29Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi#8:29 Iesu, X. Gad. א B C L Brnd., Fab Duw? A ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser? 30Ac yr oedd yn mhell oddiwrthynt genfaint o foch lawer yn pori. 31A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan,#8:31 Danfon ni i'r moch, א B Al. Tr. WH.: Caniata i ni fyned i'r moch, C L X La. Ti. danfon ni i'r genfaint foch. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch; a hwy wedi myned allan, a aethant i'r#8:32 I'r moch, א B C La. Ti. Tr., i'r genfaint foch, L X. Al. WH. Diw. moch; ac wele, yr holl genfaint a ruthrasant dros y dibyn i'r môr, ac a fuont feirw yn y dyfroedd. 33A'r porthwyr a ffoisant; ac wedi eu dyfod yn ol i'r Ddinas, hwy a fynegasant yr oll; a'r pethau a ddarfuasent i'r rhai a feddiannid gan gythreuliaid. 34Ac wele, yr holl Ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu; a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.
सध्या निवडलेले:
Matthew 8: CTE
ठळक
सामायिक करा
कॉपी करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.