Salmau 1

1
SALM 1
Y Ddwy ffordd
Sanctus 87.87.D
1-2Gwyn ei fyd y sawl na ddilyn
Gyngor drwg, na loetran chwaith
Ar y ffordd lle y tramwya
Pechaduriaid ar eu taith,
Na chydeistedd â gwatwarwyr,
Ond sy’n cadw cyfraith Duw,
Ac yn dwfn fyfyrio arni
Beunydd beunos tra bo byw.
3-4Bydd fel coeden wedi’i phlannu
Ar lan dŵr, yn dwyn ffrwyth da
Yn ei phryd, a’i dail heb wywo.
Llwydda ym mhob peth a wna.
Nid fel hynny y drygionus,
Ond fel us a yrr y gwynt,
Yn ymdroelli yn yr awyr
Cyn diflannu ar ei hynt.
5-6Felly, ni saif y drygionus
Yn y farn a ddaw ryw ddydd,
Ac yng nghynulleidfa’r cyfiawn
Pechaduriaid byth ni bydd.
Y mae’r Arglwydd da yn gwylio
Ffordd y cyfiawn ar bob llaw,
Ond mae ffordd y rhai drygionus
Yn diflannu a darfod draw.

Одоогоор Сонгогдсон:

Salmau 1: SCN

Тодруулга

Хуваалцах

Хувилах

None

Тодруулсан зүйлсээ бүх төхөөрөмждөө хадгалмаар байна уу? Бүртгүүлэх эсвэл нэвтэрнэ үү