Лого на YouVersion
Икона за пребарување

Matthew 26

26
Y Cynllwyn i'w ladd.
[Marc 14:1, 2; Luc 22:1, 2]
1A bu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, Efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, 2Chwi a wyddoch mai wedi deuddydd y mae y Pasc, a Mab y Dyn a draddodir i'w groeshoelio. 3Yna yr ymgasglodd yr Archoffeiriaid, a#26:3 A'r Ysgrifenyddion E.; Gad. א A B D Brnd. Henuriaid y bobl, i lŷs#26:3 Neu balas, neu gyntedd. yr Archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas: 4a hwy a gydymgynghorasant fel y dalient#26:4 Llyth., fel y caffent ef yn eu gafael. yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. 5Ond dywedasant, Nid yn#26:5 Neu ar. yr wyl, rhag bod cynhwrf yn mhlith y bobl.
Y galon gariadus a'r enaint gwerthfawr.
[Marc 14:3–9; Ioan 12:1–9]
6Ac a'r Iesu yn Bethania, yn nhy Simon, y gwahanglwyfus, 7daeth ato wraig, a chanddi lestr alabastr#26:7 Neu gleinfaen (Groeg, Alabastron, tref yn yr Aifft). o enaint#26:7 Neu perarogl, enaint peraroglus. Cyfieithir y gair gan rai, “dwfr persawrus,” “myrrh,” “dwfr” (Luther). gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, fel yr eisteddai#26:7 Llyth., y lledorweddai. wrth y bwrdd. 8A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ffromasant, gan ddywedyd, I ba ddyben y golled hon? 9Canys fe a allasid gwerthu hwn#26:9 Hwn א A B D L Δ Brnd.; yr ennaint hwn rhai cyf. ac ysg. rhedegog. am lawer, a'i roddi i'r tlodion. 10A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn peri blinder i'r wraig? Canys hi a weithiodd weithred dda mewn perthynas a mi. 11Canys y mae genych y tlodion bob amser gyda chwi; eithr myfi ni chewch bob amser. 12Canys hi yn tywallt yr enaint#26:12 Neu perarogl, enaint peraroglus. Cyfieithir y gair gan rai, “dwfr persawrus,” “myrrh,” “dwfr” (Luther). hwn ar fy nghorff, a'i gwnaeth ar gyfer#26:12 Neu i'm parotoi i'm claddedigaeth. fy nghladdu. 13Yn wir meddaf i chwi, pa le bynag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fyd, sonir am yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffadwriaeth am dani hi.
Bradwriaeth Judas.
[Marc 14:10–11; Luc 22:3–6]
14Yna yr aeth un o'r Deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr Archoffeiriaid, 15gan ddywedyd, Pa beth ydych yn foddlon i roddi i mi, a myfi i chwi a'i traddodaf ef? A hwy a bwysasant#26:15 Llyth., a osodasant (yn y glorian). Arferid pwyso arian, yn enwedig symiau mawrion. [Gweler Ystyriaethau ar Ddiwygiad o'r T. Cymraeg, tudal. 115.] iddo ddeg ar hugain o arian#26:15 Hyny yw, o siclau.#Zech 11:12 16Ac o hyny allan yr oedd efe yn ceisio cyfleusdra#26:16 Neu, adeg gyfaddas. i'w draddodi ef.
Y Pasc olaf a'r Swper cyntaf.
[Marc 14:12–21; Luc 22:7–23; Ioan 13:1–30]
17Ac ar ddydd cyntaf y Bara Croyw, y Dysgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd#26:17 Wrtho A; Gad. א B D L Δ Brnd., Pa le yr ewyllysi i ni barotoi i ti fwyta y Pasc? 18Ac efe a ddywedodd, Ewch i'r Ddinas at y cyfryw#26:18 Neu, fel y dywedwn, at hwn a hwn, enw yr hwn nis gallwn gofio; neu, ynte, nid yw ei enw o bwys. un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy adeg sydd yn agos: gyda thi y cadwaf#26:18 Llyth., y gwnaf. y Pasc gyda'm Dysgyblion. 19A'r Dysgyblion a wnaethant fel y trefnodd yr Iesu iddynt, ac a barotoisant y Pasc.
20A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yn eistedd#26:20 Llyth., yn lled‐orwedd [wrth y bwrdd.] gyda'r Deuddeg Dysgybl. 21Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, y bradycha un o honoch fi#26:21 Neu, Mai un o honoch chwi a'm bradycha I.. 22A hwythau yn drist iawn a ddechreuasant ddywedyd wrtho, un ac un, Ai myfi ydyw#26:22 Y mae ffurf y gofyniad yn dysgwyl yr ateb yn y nacaol: “A ydyw yw bossibl mai myfi ydyw?” “Y mae yn sicr nad myfi ydyw, onid yw?”, Arglwydd? 23Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, yr hwn a drochodd ei law gyda mi yn y ddysgl#26:23 Trublion, dysgl ddofn, cawg, yn cynnwys rhyw wlybwr, yn yr hwn y trochid y bara croyw cyn ei fwyta., hwnw a'm bradycha I#Salm 41:9. 24Mab y Dyn yn wir sydd yn ymadael, fel y mae wedi ei ysgrifenu am dano; eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu: Da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw. 25A Judas y Bradychwr a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi ydyw, Rabbi? Efe a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
Sefydliad y Swper.
[Marc 14:22–26; Luc 22:19–20; 1 Cor 11:23–25]
26Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymmerodd fara#26:26 Neu dorth., ac a fendithiodd#26:26 A ddiolchodd. Diolchodd a ddefnyddir gan Luc a Phaul.#26:26 A fendithiodd א B C D Z L Brnd.; a ddiolchodd A Δ E F, &c., ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, ac a ddywedodd,
Cymmerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.
27Ac wedi iddo gymmeryd cwpan#26:27 Cwpan א B L Z Brnd.; y cwpan A C D. a diolch, efe a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd,
Yfwch bawb o hwn:
28Canys hwn yw fy ngwaed o'r Cyfammod#26:28 Nid testament. Golyga y ferf o'r hon y deillia y gair, trefnu, cyfleu, trosglwyddo (megys meddiannau). Yna gwneyd cytundeb neu gyfammod. Felly, diathêkê, cyfammod. Dyma, fel y credwn, unig ystyr y gair yn yr Hen Destament a'r Newydd.#26:28 O'r Cyfammod א B L Z Al. Ti. WH. Diw.; o'r Cyfammod Newydd A C D La. Tr.,
Yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros lawer er#26:28 Neu ar ran. maddeuant pechodau.
29Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o gwbl o hyn allan o gynnyrch hwn y winwydden hyd y dydd hwnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn Nheyrnas fy Nhad. 30Ac wedi iddynt ganu mawl#26:30 Humneô, canu emynau, canu mawl, canu Salmau. Ar adeg y Pasc cenid Salmau 113–118, y rhai a alwasai yr Iuddewon yn Hallel Fawr., hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd.
Rhagddywedyd Cwymp Petr.
[Marc 14:27–31; Luc 22:31–34; Ioan 13:36–38]
31Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir#26:31 Neu a dramgwyddir. Gweler Mat 5:29. ynof fi y nos hon; canys y mae yn ysgrifenedig:—
Tarawaf#26:31 Patasso, taro (megys â'r cleddyf). y bugail,
A defaid y praidd a wasgerir ar led#Zech 13:7.
32Eithr wedi fy adgyfodi, myfi a âf o'ch blaen chwi i Galilea. 33A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid#26:33 Neu a dramgwyddir. Gweler Mat 5:29. pawb ynot ti, myfi ni rwystrir#26:33 Neu a dramgwyddir. Gweler Mat 5:29. byth. 34Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, yn y nos hon, cyn canu o geiliog, teirgwaith ti a'm gwedi I. 35Y mae Petr yn dywedyd wrtho, Pe angenrhaid i mi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd y dywedodd yr holl Ddysgyblion.
Ing Gethsemane.
[Marc 14:32–42; Luc 22:39–46; Ioan 18:1–2]
36Yna y mae yr Iesu yn dyfod gyda hwynt i fan#26:36 Chorion, man cauedig, megys maes, gardd, &c. a elwid Gethsemane#26:36 Sef gwasg olew., ac y mae yn dywedyd wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf ymaith acw, a gweddio. 37Ac efe a gymmerodd gydag Ef Petr, a dau fab Zebedeus, ac a ddechreuodd fod yn drist ac yn drallodus#26:37 Adêmonêo, o wreiddair a ddynoda bod o gartref, yna teimlo yn unig, bod mewn llawn trallod, gofid, a thrafferth. Codai trallod enaid Crist o deimlad o'i unigrwydd. iawn. 38Yna y mae efe yn dywedyd wrthynt, Trist#26:38 Llyth., amgylchynedig gan ofid. iawn yw fy enaid hyd angeu: aroswch yma a gwyliwch gyda mi. 39Ac wedi iddo fyned ychydig yn mlaen#26:39 Ac wedi iddo fyned ychydig yn mlaen [proelthôn] B La. Al. WH. Diw.; ac wedi iddo ddyfod ychydig yn nes [proselthôn] א A C D L Ti. Tr., efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio a dywedyd, O fy Nhad, os yw yn bossibl, aed heibio oddiwrthyf y cwpan hwn: etto nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. 40Ac y mae efe yn dyfod at ei Ddysgyblion, ac yn eu cael yn cysgu, ac a ddywed wrth Petr, Beth!#26:40 Houtôs; llyth., Felly: “A ydych felly yn analluog i wylied,” &c. Oni ellwch chwi wylied un awr gyda mi? 41Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod#26:41 Prothumos, ewyllysgar, parod. ond y cnawd sydd wan.
42Drachefn, yr ail waith, efe a aeth ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall#26:42 y cwpan E; gad. א A B C Brnd. hwn fyned heibio#26:42 oddiwrthyf A C Δ π La.; gad. א B D L Brnd. ond La. heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di. 43Ac efe a ddaeth drachefn, ac a'u cafodd hwynt yn cysgu: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. 44Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddiodd#26:44 y drydedd waith א B C L [La.] Ti. Tr. WH. Diw.; gad. A D K Al. y drydedd waith, gan lefaru yr un ymadrodd. 45Yna y mae efe yn dyfod at y Dysgyblion, ac a ddywed wrthynt, Cysgwch yr amser sydd weddill#26:45 Loipon, yr hyn sydd ar ol, yr hyn sydd weddill. Rhai a ystyriant y frawddeg fel gofyniad, “A ydych yn cysgu etto ac yn gorphwyso?”, a gorphwyswch. Wele, y mae yr awr wedi neshau, a Mab y Dyn sydd yn cael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid. 46Codwch, awn; wele, neshaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
Ei fradychu gan Judas.
[Marc 14:43–52; Luc 22:47–53; Ioan 18:3–11]
47Ac efe etto yn llefaru, wele Judas, un o'r Deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn#26:47 Neu pastynau. oddiwrth yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl. 48A'r hwn a'i bradychodd ef a roddodd iddynt arwydd, gan ddywedyd, Pa un bynag a gusanwyf, hwnw ydyw, deliwch ef. 49Ac yn ebrwydd y daeth efe at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well#26:49 Llyth., Llawenha. Hwn oedd y cyfarchiad Groegaidd., Rabbi, ac a'i cusanodd.#26:49 Golyga y ferf gyfansawdd, cusanu drachefn a thrachefn, neu cusanu yn wresog, gan ddangos neu rithio cariad dwfn. 50A'r Iesu a ddywedodd, Gydymaith, wele yr hyn y daethost o'i blegyd#26:50 Nid yw y frawddeg yn gyflawn yn y Groeg — “Yr hyn y daethost o'i blegyd;” felly, rhaid cyflenwi gair megys Wele neu Gwna yr hyn, &c. Nis gall yr ymadrodd fod yn ofyniad, oblegyd eph' ho, ac nid epi ti, yw y gwreiddiol. Lled debyg y golyga geiriau yr Iesu ei roddiad ei hun i fyny.. Yna y daethant, ac y rhoddasant ddwylaw ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef. 51Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu a estynodd ei law, ac a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Archoffeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ef. 52Yna y dywed yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le; canys pawb a'r a gymmerant gleddyf a ddyfethir â chleddyf. 53Neu a wyt ti yn tybied nas gallaf#26:53 Yr awrhon [arti, y foment hon, yn awr, yn ebrwydd]. Gadewir allan yr awrhon ar ol gallaf, a rhoddir ef ar ol efe a rydd yn א B L Ti. Tr. WH. Diw. ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yr awr hon i mi fwy na deuddeg lleng o angelion? 54Pa fodd, gan hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod?
55Yn yr awr hono y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megys at yspeiliwr y daethoch allan, â chleddyfau a ffyn, i'm cymmeryd i fyny? Yr oeddwn I beunydd#26:55 Llyth., yn ddyddiol.#26:55 gyda chwi C D [Tr.]; gad. א B L Ti. Al. WH. Diw. yn y Deml yn eistedd ac yn dysgu; ac ni'm daliasoch. 56Eithr hyn oll sydd wedi ei wneuthur fel y cyflawnir Ysgrythyrau y Proffwydi. Yna yr holl Ddysgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.#Mat 26:31.
Crist o flaen y Gallu Eglwysig.
[Marc 14:53–65; Luc 22:66–71]
57A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i harweiniasant ymaith at Caiaphas yr Archoffeiriad, lle yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Henuriaid wedi ymgasglu yn nghyd. 58A Phetr oedd yn ei ganlyn ef o hirbell, hyd yn Llys yr Archoffeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd a'r swyddogion, i weled y diwedd. 59A'r Arch‐offeiriaid#26:59 a'r Henuriaid A C Δ: gad. B D L Brnd. a'r holl Gynghor#26:59 Sef y Sanhedrin, yn gynnwysedig o 71 o aelodau., oeddynt yn ceisio gau‐dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; 60ac ni chawsant,#26:60 ïe [Kai]: gad. א B C N L Brnd. er dyfod gau‐dystion lawer#26:60 Ni chawsant [yr ail waith] A: gad. א B C L Brnd.#Salm 31:13; 35:11; eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau#26:60 gau‐dyst C D: gad. א B L Brnd., 61ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinystrio Cyssegr Duw, a'i adeiladu yn ystod tri diwrnod#Ioan 2:19, 20.. 62A chyfododd yr Arch‐offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? Pa beth y mae y rhai hyn yn dystiolaethu yn dy erbyn di? 63Ond yr Iesu a dawodd#Salm 38:13–15; Es 50:7. A'r Arch‐offeiriad#26:63 gan ateb A C N Al.; gad. B Z L Tr. WH. Diw. a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn dy osod ar lw drwy y Duw byw, fel y dywedi i ni, os tydi yw y Crist, Mab Duw? 64A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: er hyny#26:64 Neu, yn mhellach., meddaf i chwi, O hyn allan y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef.#Dan 7:9–14 65Yna yr Arch‐offeiriad a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Efe a gablodd: paham y mae rhaid i ni bellach wrth dystion? wele, yr awrhon y clywsoch y cabledd. 66Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn haeddu#26:66 Llyth.: yn agored i; mewn perygl o. Gweler Mat 5:21, 22 marwolaeth.#Lef 24:15, 16; Salm 94:21 67Yna y poerasant i'w wyneb ef, ac a'i dyrnodiasant#26:67 Neu, a'i tarawsant a'u dyrnau.: eraill a'i cernodiasant#26:67 Neu, a'i curasant â ffyn. Yr un gair a ddefnyddir yn 5:39: Pwy bynag, a'th darawo ar dy rudd ddeheu, &c. Deillia rapizo o rapis, gwialen; ond yma dynoda, nid taraw â gwiail, ond a chledr y llaw., 68gan ddywedyd, Proffwyda i ni, Tydi Grist, pwy yw yr hwn a'th darawodd di?#Es 50:6
Cwymp Petr a'i Edifeirwch.
[Marc 14:66–72; Luc 22:54–62; Ioan 18:15–27]
69A Phetr oedd yn eistedd allan yn y Llys: a daeth morwynig ato, gan ddywedyd, A thithau oeddyt gyda Iesu y Galilead! 70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, gan ddywedyd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 71Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r porth, gwelodd morwynig arall ef, a hi a ddywed wrth y rhai oedd yno, Ac yr oedd hwn gyda Iesu y Nazaread! 72A thrachefn efe a wadodd gyda llw, Nid adwaen I y dyn. 73Ac yn mhen ychydig daeth y rhai oedd yn sefyll, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wir yr wyt tithau hefyd yn un o honynt, canys y mae dy dafodiaith hefyd yn dy ddadguddio#26:73 Llyth.: yn dy wneyd yn amlwg, yn dy ddwyn i'r goleu.. 74Yna y dechreuodd efe regu#26:74 Llyth.: galw i lawr felldithion. a thyngu, Nid adwaen I y dyn. Ac yn y man ceiliog a ganodd. 75A chofiodd Petr y gair pan ddywedodd yr Iesu, Cyn cana ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.

Селектирано:

Matthew 26: CTE

Нагласи

Сподели

Копирај

None

Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се