Psalmau 16

16
Y Psalm. XVI. Cywydh Devair Hirion.
1Kadw fyfi geli ar gais
Er ioed iti ’mdhiriedais:
2Fy enaid dowaid yn d’wydh
Fawrglod ydwy fy arglwydh.
Nyd son am fy haelioni
Aruth wyt, ior wrthyt ti:
3Fy-nidhanwch fwyn dhynion
Fu ’n dy saint fenaid oe son.
Gwyr parchus gwedhus gwiwdhawn
Sydh ar y dhaear o dhawn.
4A el at arall gwall gur
Mal y del aml y dolur:
Ni offrymaf medhaf imoes
Grevlawn vn aberth groywloes.
Am genau nis mag enhyd
Yw henwau ganiadau gwyd.
5Diau waith vn Duw wetthian
Digwydhodh im rhodh am rhann.
Duw fy lot da wybod dawn
Duw ae gynnal deg vniawn.
6Doeth fy rhandir gwir gwiw lon,
Olud taer, i le tirion.
Perffeidhlan yw ’r fann wir faeth
Etto fydh fy-tifedhiaeth:
7Bendigaf fy naf oe nawdh
A hwyred im kynghorawdh.
Nis haedhais y nos hydhysg
Fynghalon dirion am dysg:
8Roie f arglwydh im gwydh om gwir
Ys m[...]wy ydyw nim smvdir:
Affob amier da ner daw
Duw hylwydh im deheu law.
9Gogoniant gwiw a genais
Am kalon yn llonn am llais
Am knawd o burwawd lle bai
Yn dhiofal yn dhifai:
10F’annwyl nt adewi f’enaid:
I ’r bedhav llowngav ar llaid
Na gwr vnion gwiw rinwedh
I fethu ne i bydru ir bedh.
11Yno dysgi imi fy myd
Lwybrau a befau’r bywyd:
Eer dy fronn gair Duw freiniawl
Llownedh mae llewenydh mawl.
A hyfrydwch hoew frevder
Int ar dhehevlaw ner.

Šiuo metu pasirinkta:

Psalmau 16: SC1595

Paryškinti

Dalintis

Kopijuoti

None

Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės