Luc 20
20
1-47Un dwarnod, pan we Iesu in disgu'r bobl in i demel a'n prigethu'r Newyddion Dam dâth i penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth gyda'r henaduried lan ato, a gweu’‑tho fe, “Gwed wrthon hawl pwy sy 'da ti i neud i pethe 'ma. Pwy roiodd ir hawl iti?” Atebodd‑e nhwy, “'Na‑i ofyn cwestjwn ichi: Gwedwch‑chi wrtha i, a we bedydd Ioan in dod o'r nefodd neu o ddinion?” Dachreuon‑nhwy drafod 'da i gily, a gweud, “Os wedwn‑ni, ‘O'r nefodd’, gwedith‑e, ‘Pam nethoch‑chi ddim i gredu fe?’ Ond os wedwn‑ni, ‘O ddinion’, wedyn bydd i bobl i gyd in towlu cerrig aton ni i'n lladd ni; achos man‑nhwy'n shŵr bo Ioan in broffwd.” Atebon‑nhwy bo nhwy ddim in gwbod o ble we bedydd Ioan in dwâd. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “A sena‑i'n gweu‑'thoch chi trw hawl pwy dw‑i'n neud i pethe 'ma.”
Gwedodd‑e'r ddameg hon wrth ddinion: “Ma'r dyn 'ma in plannu gwinllan, i gosod hi i ffermwyr a mynd dros i dŵr am amser. Pan ddâth ir adeg iawn halodd‑e geithwas at i ffermwyr, fel gallen‑nhwy roi iddo fe beth o ffrwyth i winllan; ond tima'r ffermwyr in rhoi crosfa iddo fe a'i hala fe bant heb ddim. Ond shwrne 'to halodd‑e gweithwas arall; ond fe roion‑nhwy grosfa a neud sbort ar i ben e ‘fyd a'ihala fe bant heb ddim. Shwrne 'to halodd e drididd ceithwas; ond nethon‑nhwy ddolur i hwnnw ‘fyd a'i dowlu fe mas. Gwedodd i dyn we pia'r winllan, ‘Beth in i byd alla i neud? Hala‑i'n fab annwil atyn nhwy, ir unig fab sy 'da fi. Falle newn‑nhwy ddangos bach o barch ato fe.’ Ond pan welo'r ffermwyr e dachreuon‑nhwy darfod 'da i gily beth, a gwud, ‘Co'r etifedd; gadwch inni ladd e, fel gallw‑ni gâl i etifeddieth e.’ A fe dowlon‑nhwy e mas o'r winllan a'i ladd e? So beth neith i dyn sy pia'r winllan iddyn nhwy? Fe ddeith‑e a distrywo'r ffermwyr 'nay, a rhoi'r winllan i rei erill.” Pan gliwon‑nhwy gwedon‑nhwy, “Ddim ar unrhyw gownt!” Drichodd‑e arnyn nhwy a gweud, “Beth yw istyr i isgrithur 'ma:
‘Ma'r garreg nâth i rhei sy'n codi'r tŷ i wrthod
wedi dwâd in garreg-gornel’?
Os neith rhiwun gwmpo ar i garreg 'ny gewn‑nhwy u torri in bishys mân, a bydd‑i'n gwasgu unrhiw neith‑i gwmpo arnyn nhwy in shwps.
Drichodd i rhei we'n disgu'r Gifreth a'r penffeiradon am ffordd i roi dwylo arno fe ar ir amser 'ny, ond we gormod o ofon arnyn nhyw achos i bobol; achos wen‑nhwy'n gwbod i fod e wedi gweud i ddameg 'ma in u herbyn nhwy hunen. Wen‑nhwy'n cadw lligad mas am gifle a nethon‑nhwy hala sbiwyr we'n isgus u bod nhwy'n onest, fel gallen‑nhwy ddala fe mas in beth wedd‑e'n i weud, a wedyn i roi e lan i awdurdod a hawl i rheolwr. Gofinon‑nhwy iddo fe, “Athro, ŷn‑ni'n gwbod bo beth wit‑ti'n gweud a'n disgu iniawn, sdim ffefrorits 'da ti, ond di fod ti'n disgu ffordd Duw mewn gwirionedd; ody 'ddi'n iawn iawn i ni dalu trethi i Cesar neu beido?” Ddiallodd‑e u trics nhwy'n iawn a gwedodd‑e, “Dangoswch bishyn arian ifi. Llun a enw pwy sy arno?” “Cesar” gwedon‑nhwy. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Wedyn 'te talwch beth sy i Cesar i Cesar, a beth sy i Dduw i Dduw.” Wenon‑nhwy'n galler i ddala fe mas o gwbwl ar beth wedd‑e'n i weud in ganol i bobol; wen‑nhwy'n sinnu at i ateb a'n ffeilu gweud dim byd.
Dâth rhei o'r Sadwceied, sy'n gwadu bod shwt beth in bod â'r atgyfodiad, ato fe a holi, “Athro, reitodd Moses i ni os bise dou frawd a bod un in marw heb blant, bod i brawd arall i gwmrid i widw a codi teulu i’w frawd e. Nawr, we daith brawd i gâl. Priododd i cinta a marw heb blant. Cwrmodd ir ail hi a wedyn i tridydd. Fel 'na nâth i saith i gyd; gethon‑nhwy ddim plant a marw. In i diwedd marwo'r fenyw i hunan. Amser ir atgifodiad, gwraig pwy fydd hi? Achos gâs i saith hi in wraig iddyn‑nhwy.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Ma'r rhei sy'n bart o'r oes 'ma in priodi a'n câl u rhoi miwn priodas, ond seno'r rhei sy'n câl u cownto'n u bod nhwy'n haeddu ennill ir oes i dod a'r atgifodiad wrth i marw in priodi na'n câl u rhoi miwn priodas. I weud i gwir, sen‑i'n bosib iddyn nhwy farw, achos man‑nhwy fel angilion, a'n blant i Dduw, achos bo nhwy'n rhannu in ir atgifodiad. Ond bo'r marw in codi nâth Moses hi'n blaen in i part lle reitodd e am i Llwyn, pan mae e'n sharad am ir Arglwidd fel Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob. Dim Duw i rhei marw yw Duw, ond i rhei byw; iddo fe ma pob un in fyw.” Atebo rhei o'r rhei sy'n disgu'r Gifreth, “Athro, wit‑ti wedi sharad in dda”; achos wenyn‑nhwy'n mentro gofyn cwestjwn arall iddo fe.
Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Shwt ma dinion in galler gweud fod i Meseia in grwt i Dafydd? Gwedo Dafydd i unan in llifyr i Salme,
‘Gwedo'r Arglwidd wrthin in Arglwidd i, Ishte ar in llaw dde i
nes bo fi'n neud di elinion di'n stol dan di drâd di.’
So ma Dafydd in i alw e'n ‘Arlgwidd’; shwt mae‑e'n grwt iddo?”
Gwedodd‑e wrth i ddisgiblion fel galler bobol i gyd gliwed, “Watshwm mas am i rhei sy'n disgu'r Gifreth sy'n lico cered rown in gwishgo dilld crand a'n lico câl u silwun in i farced, i sêt fowr in i sinagog a'r llefydd gore amser ffest, sy'n llwncu eiddo'r widw a'n gweddïo'n hir dim ond am show; gewn‑nhwy u condemno'n fwy.”
Šiuo metu pasirinkta:
Luc 20: DAFIS
Paryškinti
Dalintis
Kopijuoti
Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies