Ioan 7:14-24
Ioan 7:14-24 DAFIS
We hanner ir ŵyl wedi mynd heibo, a âth Iesu miwn i'r demel a dachre disgu. Gas i dinion mowr dipyn o sindod a gweud, “Shwt ma'r dyn 'ma in gwbod shwt gwmint? Seno fe wedi câl i ddisgu 'da neb!” Atebo Iesu: “Sena i'n disgu rhwbeth wi wedi'i neud lan in unan. Dwi'n disgu rhwbeth sy'n dwâd wrth i'r un nâth in hala i. Os ych chi am neud beth ma Duw am ichi neud, wedyn cewch chi wbod os yw beth wi'n i ddisgu in dod wrth Dduw neu wrtha i in unan. Os ar in gownt in unan wen i moyn parch, sharaden i dros in unan. Ond wi am roi parch i'r un sy wedi'n hala i. 'Na pam wi'n gweud y gwir a ddim in gweud celwy. Moses roiodd i Gifreth i chi, ondife? Ond sdim un wan jac ono chi in grondo arni! So pam ych chi am in ladd i?” Atebo'r crowd, “Wit ti off di ben! Beth sy'n neud iti feddwl bo rhiwun am di ladd di?” Atebo Iesu: “Nes i neud un peth sbeshal, a fe gethoch chi gyd sindod. Nâth Moses roi gorchimyn ichi enwaedu ich meibion. Ond i weud i gwir ddim Moses nâth roi'r gorchimyn 'ma ichi. Ich cyn-dade nâth, a hyd 'n ôd ar ddy Sabbath ŷch chi'n enwaedu ich meibion fel bo chi'n neud fel ma Cifreth Moses in i weud. Pam ŷch chi'n grac 'da fi wedyn am neud rhiwun in gwbwl iach ar ddy Sabbath? Peidwch barnu wrth shwt ma pethe'n drych i chi. Barnwch chi wrth beth sy'n iawn.