Ioan 3
3
A.D. 30. —
1 Crist yn dysgu Nicodemus mor angenrheidiol yw adenedigaeth. 14 Am ffydd yn ei farwolaeth ef. 16 Mawr gariad Duw tuag at y byd. 18 Condemniad am anghrediniaeth. 23 Bedydd, tystiolaeth, ac athrawiaeth Ioan am Grist.
1Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon: 2#Pen 7:50; 19:39Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys #Pen 9:16, 33ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod #Act 10:38Duw gydag ef. 3Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, #Titus 3:5Oddieithr geni dyn #3:3 oddi fyny.drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. 4Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? 5Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. 6Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd. 7Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi #3:7 oddi fyny.drachefn. 8#Preg 11:5; 1 Cor 2:11Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd. 9Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, #Pen 6:52, 60Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? 10Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? 11#Pen 7:16; 8:28; 12:49; 14:24Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; #Pen 3:32a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. 12Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? 13Ac #Diar 30:4; Ioan 6:62; Eff 4:9nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
14Ac #Num 21:9megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly #Pen 8:28; 12:32y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; 15Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond #Pen 3:36; Ioan 6:47caffael ohono fywyd tragwyddol.
16 #
1 Ioan 4:9
Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. 17#Luc 9:56; Ioan 5:45; 8:15; 12:47Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
18 #
Pen 5:24
; 6:40, 47; 20:31Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw. 19A hon yw’r ddamnedigaeth, #Pen 8:12ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. 20Oherwydd #Job 24:13, 17pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel #3:20 Neu, na ddatguddier.nad argyhoedder ei weithredoedd ef. 21Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
22Wedi’r pethau hyn, daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, #Pen 4:2ac a fedyddiodd.
23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a’u bedyddiwyd: 24Canys #Mat 14:3ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar.
25Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon, ynghylch puredigaeth. 26A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, #3:26 Athro.Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, #Pen 1:7, 15, 27, 34am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef. 27Ioan a atebodd ac a ddywedodd, #1 Cor 4:7; Heb 5:4; Iago 1:17Ni ddichon dyn #3:27 gymryd dim iddo ei hun.dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef. 28Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, #Pen 1:20, 27Nid myfi yw’r Crist, eithr #Mal 3:1; Marc 1:2; Luc 1:17fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef. 29Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw’r priodfab: ond #Can 5:1cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn #3:29 o’r eiddof fi, & c.mau fi gan hynny a gyflawnwyd. 30Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau. 31Yr hwn a ddaeth oddi uchod, #Pen 1:15, 27sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: #1 Cor 15:47yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb. 32#Ad. 11 Ioan 8:26A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef. 33Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, #Rhuf 3:4; 1 Ioan 5:10a seliodd mai geirwir yw Duw. 34Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. 35#Mat 11:27; 28:18; Ioan 5:20, 22; 13:3; 17:2; Heb 2:8Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef. 36#Hab 2:4; Ioan 3:15, 16; Rhuf 1:17; 1 Ioan 5:10Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
Currently Selected:
Ioan 3: BWM1955C
Tya elembo
Share
Copy
Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society