Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Hosea 13

13
1Pan lefarai Effraim, byddai cryndod,
Ymddyrchafodd yntau yn Israel;
Pan gamweddodd drwy Faal, bu farw.
2Ac yn awr daliant i bechu,
A gwnant iddynt dawdd-ddelw o’u harian,
Eilunod â’u deall,
Gwaith crefftwyr i gyd;
Siaradant wrthynt!
Dynion wrth aberthu yn cusanu lloi!
3Am hynny byddant fel cwmwl bore,
Neu fel y gwlith yn diflannu gyda’r plygain;
Fel us a yrrer o’r llawrdyrnu gan gorwynt,
Neu fel mwg drwy ddellt.
4Eto myfi yw Iafe dy Dduw
Er amser gwlad yr Aifft,
Ac nid adwaenost Dduw ond myfi,
Ac nid oes waredwr namyn myfi.
5Adnabûm#13:5 LXX Bugeiliais innau di yn yr anialwch,
Yn nhir craster sych.
6Fel yr oedd eu porfa y diwallwyd hwynt,
Diwallwyd hwynt a dyrchafodd eu calon;
Am hynny anghofiasant fì.
7Byddaf innau iddynt fel llew,
Gwyliaf ar y ffordd fel llewpart,
8Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon,
A rhwygaf rwyden eu calon;
Ie, difâf hwynt yno fel llew,
Rhwyga bwystfil y maes hwynt.
9Dinistriwyd di, Israel;
Ond ynof fi y mae dy gymorth.#13:9 Ond ynof fi y mae dy gymorth. LXX Pwy a’th gynorthwya?
10Pa le y mae dy frenin ynteu,
Fel y’th waredo yn dy holl ddinasoedd?
A’th farnwyr, y dywedaist amdanynt
“Dyro imi frenin a thywysogion”?
11Rhoddais iti frenin yn fy nigllonedd,
A chymerais ef ymaith yn fy llid.
12Rhwymwyd anwiredd Effraim;
Ystoriwyd ei bechod.
13Daw arno wewyr un yn esgor,
Mab angall yw ef,
Canys amser yw i beidio â sefyll yn esgoreddfa plant.
14Prynaf hwynt o afael Sheôl,
Rhyddhaf hwynt o angau;
Pa le y mae dy blâu, angau?
Pa le y mae dy ddinistr, Sheôl?
Cuddir tosturi o’m gŵydd.
15Er ei fod yn ffrwythlon ymhlith brodyr,
Daw dwyreinwynt oddi ar yr anialwch,
Anadl Iafe yn dyrchafu,
Cywilyddir#13:15 LXX Sychir ei darddle, ac â ei ffynnon yn hesb;
Ysbeilia yntau drysor pob llestr dymunol.
16Cyfrifir Samaria yn euog,
Canys gwrthryfelodd yn erbyn ei Duw;
Syrthiant drwy’r cleddyf,
Dryllir eu plant, a rhwygir eu beichiogion.

Currently Selected:

Hosea 13: CUG

Tya elembo

Share

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo