Logo ya YouVersion
Elilingi ya Boluki

Marc 1

1
1. IESU A'R NEGESEUWYR
Gwaith Ioan Fedyddiwr (Marc 1:1-8)
1-8Dyma ddechrau'r Newyddion Da ynglŷn â Iesu Grist, Mab Duw. Soniodd Eseia'r proffwyd amdano fel hyn:
“Dwedodd Duw, ‘Anfonaf fy negesydd o dy flaen
i baratoi dy ffordd.’
Mae un yn cyhoeddi yn yr anialwch:
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,
gwnewch ei lwybrau'n unionsyth.’ ”
Digwyddodd Ioan Fedyddiwr fod yn yr anialwch yn bedyddio a phregethu gan ddweud wrth y bobl, “Trowch oddi wrth eich pechodau, bedyddier chi, a bydd Duw yn maddau i chi.” Aeth llawer o ardal Jwdea a dinas Jerwsalem allan ato, ac ar ôl cyffesu eu pechodau, cawson nhw eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen. Roedd Ioan wedi'i wisgo mewn dillad o flew camel gyda gwregys o groen am ei ganol; locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. Dyma oedd ei neges: “Mae un cryfach na fi yn dod ar fy ôl i. Dydw i ddim yn deilwng i blygu lawr i dynnu'i esgidiau. Bedyddiais i chi gyda dŵr, ond bydd e'n eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân.”
Bedydd Iesu (Marc 1:9-11)
9-11Tua'r adeg honno daeth Iesu o dre Nasareth, yng Ngalilea, i afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan. Wrth iddo godi o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn agor a'r Ysbryd yn disgyn arno fel colomen a chlywodd lais yn dweud: “Fy mab wyt ti, rwyt yn annwyl iawn i mi.”
Temtiad Iesu (Marc 1:12-13)
12-13Yna gyrrwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, a bu yno am ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Roedd ynghanol anifeiliaid gwyllt, ond roedd yr angylion yn gofalu amdano.
Dechrau Gweinidogaeth Iesu yng Ngalilea (Marc 1:14-15)
14-15Wedi i Ioan gael ei garcharu, daeth Iesu i Galilea i gyhoeddi Newyddion Da Duw: “Mae'r amser wedi cyrraedd; mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Trowch oddi wrth eich drygioni a chredwch y Newyddion Da.”
Iesu'n Galw'r Pedwar Pysgotwr (Marc 1:16-20)
16-20Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau bysgotwr, Simon a'i frawd Andreas yn taflu rhwyd i'r môr. Dwedodd Iesu, “Dilynwch fi, a dysgaf chi i ddal pobl.” A dyma nhw'n gadael eu rhwydau ar unwaith a'i ddilyn. Wedi iddo fynd ymlaen ychydig, gwelodd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, wrthi'n trwsio'r rhwydau yn y cwch. Galwodd Iesu nhw, ac aethon nhw gydag e gan adael eu tad yn y cwch gyda'r gweision.
Iesu a'r Dyn Gwallgof (Marc 1:21-28)
21-28Daeth Iesu a'i ddisgyblion i Gapernaum ac ar y Saboth, dydd sanctaidd yr Iddewon, aeth i mewn i'r synagog a dechrau dysgu. Roedd y bobl yn synnu at yr hyn a ddwedai; roedd ef yn eu dysgu nhw fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel y gwnâi athrawon y gyfraith. Roedd dyn gwallgof yn y synagog yn gweiddi, “Beth wyt ti ei eisiau gyda ni, Iesu o Nasareth? Wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Rydw i'n dy nabod di — ti ydy Sanct Duw!” Ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan a dweud: “Bydd ddistaw, a dos allan ohono.” Yna, wedi ei gynhyrfu, rhoddodd y dyn floedd uchel, a gadawodd yr ysbryd aflan ef. Roedd pawb wedi eu syfrdanu gymaint nes troi a holi ei gilydd: “Beth ydy hyn? Dyma addysg newydd! Mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed ysbrydion aflan ac maen nhw'n ufudd iddo!” Aeth y sôn amdano ar led drwy holl gymdogaeth Galilea.
Iesu'n Iacháu Llawer (Marc 1:29-34)
29-34Wedi dod allan o'r synagog, aethon nhw i gyd i dŷ Simon ac Andreas. Roedd mam‐yng‐nghyfraith Simon yn gorwedd yno'n wael; roedd hi'n dioddef o'r dwymyn. Dyma ddweud wrth Iesu amdani; aeth ef ati, gafaelodd yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd weini arnyn nhw. Y noson honno, â'r Saboth bellach drosodd, daethon nhw â'r cleifion ato. Daeth holl bobl y dre at y drws i'w wylio. Iachaodd Iesu lawer ohonyn nhw a bwriodd allan lawer o gythreuliaid. Chaniataodd e ddim i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd roedden nhw yn eu adnabod.
Taith Bregethu (Marc 1:35-39)
35-39Fore trannoeth, cododd Iesu'n gynnar iawn ac aeth allan i le unig i weddïo. Aeth Simon a'i ffrindiau i chwilio amdano; ac wedi dod o hyd iddo, dyma nhw'n dweud: “Mae pawb yn chwilio amdanat ti.” Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd ymlaen i'r trefi nesaf i mi gael pregethu yno hefyd; dyna'r rheswm i mi ddod allan.” Aeth Iesu drwy holl Galilea gan bregethu yn y synagogau ac iacháu'r cleifion.
Iesu'n Gwella'r Dyn Gwahanglwyfus (Marc 1:40-45)
40-45Daeth dyn gwahanglwyfus at Iesu ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os wyt ti'n dymuno, gelli di ngwella i.” Teimlodd Iesu biti drosto, estynnodd ei law, cyffyrddodd ag ef a dwedodd, “Dymunaf, bydd iach.” Diflannodd y clefyd ar unwaith, ac iachawyd y dyn. Ar ôl ei rybuddio'n llym, anfonodd Iesu'r dyn ymaith, gan ddweud wrtho, “Paid â dweud dim wrth neb, ond dos, dangos dy hun i'r offeiriad, a gwna bopeth y gorchmynnodd Moses y dylid ei wneud gan rai sy wedi eu gwella o'r clefyd hwn, fel tystiolaeth i'r bobl.” Aeth y dyn allan a dechreuodd ddweud yr hanes wrth bawb. Gwnaeth hyn hi'n anodd i Iesu fynd i unrhyw dref arall a bu raid iddo aros y tu allan, mewn lleoedd unig. Eto i gyd, roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad.

Currently Selected:

Marc 1: DAW

Tya elembo

Share

Copy

None

Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo