Marc 3

3
Gwella'r dyn we'i law e wedi gwywo
1-6Âth Iesu miwn i'r sinagog shwrne 'to, a we dyn 'na we'i law e wedi gwywo. A wên‐nhwy 'na in lliged i gyd in watsho Iesu i weld a fidde‐fe'n gwella'r dyn ar ddy' Sabath, achos wên‐nhwy'n gobeitho câl rwbeth in i erbyn e. Gwedodd Iesu wrth i dyn we'i law e wedi gwywo, “Safa lan in i canol fan'na fel bo bobun in galler di weld di!” Wedyn wedodd‐e wrtho nhwy, “Odi'ddi in erbyn i Gifreth i neud rwbeth da ar ddy' Sabath, neu i neud rwbeth drwg; i safio bowid riwun, neu ladd rywun?” On wedon‐nhwy ddim byd. O weld u bo nhwy mor benstiff drichodd‐e arnon nhwy'n grac, a gweud wrth i dyn, “Mistina di law mas.” A tima fe'n mistyn i law, a wedd‐i wedi gwella. Âth i Ffariseied mas ar unweth a dachre clebran da'r Herodied am shwt wên‐nhwy'n mynd i ladd e.
Gwella dinion a towlu mas cithreiled
7-12Âth Iesu a'i ddisgiblion bant i lan i llyn, a dâth crowd mowr o Galilea ar u hôl nhwy. Dâth mwy o ddinion weth o Jiwdea, o Idwmea, o ochor draw i afon Iorddonen a o ardal Teirus a Seidon. A wên‐nhwy i gyd in dwâd achos u bo nhw wedi cliwed beth wedd‐e'n i neud. Gofinodd‐e i'r disgiblion gâl cwch in barod iddo fe achos i crowd, fel na bise‐fe'n câl i wasgu. Achos i fod e wedi gwella shwt gwmint o ddinion we pob un we unryw beth in bod arnyn nhwy'n dwâd mlân i dwtsh ag e. A pan bidde isbridion drwg in i weld e, bydden‐nhwy'n cwmpo lawr o'i flân e a gweiddi “Ti yw Crwt Duw!” Ond wede‐fe wrthon nhwy'n blaen i beido gweud dim byd amdano fe wrth neb.
Dewish i douddeg
13-19Âth Iesu lan i'r mini a gweu‐'th i rhei wedd‐e moyn u gweld nhwy i ddwâd ato fe fan‐'ny. Diwishodd‐e ddouddeg o ddinion, galwodd‐e nhwy fyd in ‘apostlion’, i fod in gwmni iddo fe a i fynd mas i brigethu, a we hawl 'da nhw i dowlu mas jawled. Tima'r douddeg ddiwishodd‐e: Seimon (a alwodd‐e 'fyd in Pedr), Iago crwt Sebedeus a Ioan brawd Iago (a galwodd‐e nhwy dou in ‘Boanerges’, sy'n goligu ‘Plant i trwste’); wedyn Andreas, Ffilip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago crwt Alffeus, Thadeus, Seimon i Selot, a Jiwdas Iscariot, a 'na'r dyn fidde'n i fradichu fe.
Iesu a Belsebwb
20-30Âth e getre weth, a shwrne to we gwmint o growd 'na fel wedd‐e'n ffeili bita pryd o fwyd hyd 'n‐ôd. Pan gliwodd i dilwith am beth we'n digwydd, ethon‐nhw ati i neud rwbeth i stopo fe; achos wên‐nhwy'n meddwl na wedd‐e'n llawn llathen.
We'r dinion we'n disgu'r Gifreth we wedi dwâd lawr o Jeriwsalem in gweud bo Belsebwb in fishtir arno fe a bo brenin i jawled in i helpu fe i dowlu jawled erill mas o ddinion. So galwodd‐e arnon nhwy i ddwâd ato fe a sharadodd‐e 'da nhwy in iwso damegion, “Shwt gall Satan dowlu Satan mas? Os wes gwlad wedi troi in erbyn i hunan gall‐i ddim sefyll. Os ma teulu wedi troi in erbyn i 'unan gall‐e ddim sefyll whaith. Nawr os ma Satan wedi troi in erbyn i 'unan, mewn geirie erill mae‐e wedi'i rannu, gall‐e ddim sefyll whaith — a 'na i ddiwedd e. Sneb in galler torri miwn i dÿ dyn cryf a dwgyd i bethe fe os na fydd‐e wedi clwmu'r dyn cryf in sownd in ginta. Dim ond wedyn gall‐e ddwgyd o'i dŷ e. 'Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, bydd pechode a cable pob un in câl u madde; ond os bydd rhywun in gweud cable in erbyn ir Isbryd Glân gall‐e byth gâl i fadde; ma'i bechod e in aros am byth.” Gwedo Iesu hyn achos u bo nhwy in gweud “Ma isbryd drwg indo fe.”
Tilwith Iesu
31-35Dâth i fam a'i frodyr a sefyll tu‐fas i ble wedd‐e, a halon‐nhwy riwun miwn i mofyn e. We crowd in ishte rown'ddo fe ar i pryd a wedon‐nhwy wrtho fe, “Ma di fam a di frodyr a di wiorydd tu‐fas in gofyn amdanot ti.” Atebodd‐e, “Pwy yw in fam a'n frodyr i?” Drichodd ar i rhei we'n ishte rown'ddo fe, a medde‐fe, “Tima in fam a'n frodyr i. Ma unryw un sy'n neud beth ma Duw am iddo fe neud in frawd a whâr a mam i fi.”

ಪ್ರಸ್ತುತ ಆಯ್ಕೆ ಮಾಡಲಾಗಿದೆ:

Marc 3: DAFIS

Highlight

ಶೇರ್

ಕಾಪಿ

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy