Matthew 1

1
Achyddiaeth Crist o Abraham i Joseph
[Luc 3:23–38]
1Llyfr cenedliad#1:1 Neu achyddiaeth, neu, genedigaeth, fel yn adnod 18. Iesu Grist, mab Dafydd#1:1 Teitl y Crist; 2 Sam 7:12–16; 1 Cr 17:11–15; Salm 72:1–20; 89:3, 4, 19–36; 132:10, 11; Es 9:1–7; 11:1–10; Jer 23:5, 6; Mat 21:9; 22:41–45; Luc 1:27–38, 69; 2:1–4; &c., mab Abraham. 2Abraham a genedlodd Isaac#Gen 21:2, 3.; ac Isaac a genedlodd#Gen 25:19–28. Jacob; a Jacob a genedlodd#Gen 29:32–35; 49:8–10 Judah#1:2 Dylai y ffurf fwyaf gyffredin ac adnabyddus o'r enwau priodol gael ei rhoddi; felly y gwneir trwy y rhestr. a'i frodyr; 3a Judah a genedlodd#Gen 38:11–30. Phares a Zarah o Tamar; a Phares a genedlodd#Ruth 4:18. Hesron; ac Hesron a genedlodd#Ruth 4:19. Ram; 4a Ram a genedlodd#Ruth 4:19. Aminadab; ac Aminadab a genedlodd#Ruth 4:20. Nahson; a Nahson a genedlodd#Ruth 4:20. Salmon; 5a Salmon a genedlodd#Ruth 4:21, 22. Boaz o Rahab; a Boaz a genedlodd#Ruth 4:21, 22. Obed o Ruth; 6ac Obed a genedlodd#Ruth 4:21, 22. Jesse; a Jesse a genedlodd#Ruth 4:22. Dafydd Frenin; a Dafydd#1:6 Dafydd Frenin. C L, Gad. א B, Brnd. a genedlodd#2 Sam 12:24 Solomon o weddw Urïas; 7a Solomon a genedlodd#1 Cron 3:10, &c. Rehoboam; a Rehoboam a genedlodd Abïah; ac Abïah a genedlodd Asa#1:7 Asaph, א B C. Brnd.; 8Ac Asa#1:8 Asaph, א B C. Brnd. a genedlodd Jehosaphat; a Jehosaphat a genedlodd Joram; 9a Joram a genedlodd Uzzïah#1:9 Uzziah oedd oresgynydd (great‐great‐grandson) Joram. Gelwid ef hefyd Azariah. Y mae tri brenin rhwng y rhai hyn — Jerom ac Uzziah — sef Ahaziah, Joas, ac Amasiah, 2 Bren 8:24; 1 Cr 3:11; 24:27; ac Uzzïah a genedlodd Jotham; a Jotham a genedlodd Ahaz; 10ac Ahaz a genedlodd Hezecïah; a Hezecïah a genedlodd Manasseh; a Manasseh a genedlodd Amon; ac Amon a genedlodd Josiah; 11a Josiah a genedlodd Jechonïah#1:11 Gorŵyr Josiah oedd Jeconiah. Josiah a genedlodd Joacim, a Joacim a genedlodd Joachin, yr hwn a elwid hefyd Jeconiah. a'i frodyr, ar adeg y caethgludiad#1:11 Metoikesia, symmudiad gorfodol, caethgludiad. i Babilon.
12Ac wedi y caethgludiad i Babilon, Jechoniah a genedlodd Salathiel; a Salathiel a genedlodd Zorobabel; 13a Zorobabel a genedlodd Abïud; ac Abïud a genedlodd Eliacim; 14ac Eliacim a genedlodd Azor; ac Azor a genedlodd Sadoc; a Sadoc a genedlodd Achim; ac Achim a genedlodd Elïud; 15ac Elïud a genedlodd Eleazar; ac Eleazar a genedlodd Matthan; a Matthan a genedlodd Jacob; 16a Jacob a genedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.
17Yr holl genedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, oeddynt bedair cenedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon, pedair cenedlaeth ar ddeg; ac o'r caethgludiad i Babilon hyd y Crist, pedair cenedlaeth ar ddeg.
Genedigaeth Crist.
[Luc 1:26–38; 2:1–21]
18A genedigaeth#1:18 Neu genedliad, fel yn adnod 1. yr Iesu Grist#1:18 yr Iesu Grist. א C L La. Ti. Al. Diw. y Crist Iesu B. Y Crist. Tr. oedd fel hyn: Mair ei fam ef, wedi ei dyweddïo â Joseph, cyn eu dyfod hwy yn nghyd, a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd Glân. 19A Joseph ei gwr hi, yr hwn oedd ddyn cyfiawn, ac yn anfoddlon i'w gwneyd yn esiampl cyhoeddus#1:19 Deigmatizo, arddangos yn gyhoeddus, dangos fel esiampl: “Efe a'u harddangosodd hwy i'r tywysogaethau ar gyhoedd,” Col 2:15., a ewyllysiai ei gollwng ymaith yn ddirgel. 20Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, fab Dafydd, nac ofna gymmeryd atat Mair dy wraig, canys yr hyn a genedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân. 21A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU; oblegyd EFE a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. 22A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y Proffwyd, gan ddywedyd,
23Wele, Y Forwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Immanuel, yr hyn o'i ddeongli ydyw, Duw gyda ni.#Es 7:14; 8:8–10
24A Joseph, pan gyfododd o'i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ato ei wraig; 25ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd ar fab#1:25 ar fab, א Brnd.; ar ei mab cyntafanedig, C D L.; ac efe a alwodd ei enw ef IESU.

ಪ್ರಸ್ತುತ ಆಯ್ಕೆ ಮಾಡಲಾಗಿದೆ:

Matthew 1: CTE

Highlight

ಶೇರ್

ಕಾಪಿ

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in