Luc 24

24
Adgyfodiad Crist
[Mat 28:1–8; Marc 16:1–8; Ioan 20:1, 2]
1Ond#24:1 Y mae cysylltiad agos rhwng y rhan olaf o'r adnod ddiweddaf â hon, “Hwy a orphwysasant … ond.” ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos#24:1 Llyth.; o'r Sabbathau, h. y. o'r saith niwrnod, “wythnos.”, gyd â'r wawr gynaraf#24:1 Llyth.: gyd â'r wawr ddofn. Yn y Groeg defnyddir dwfn am amser; yn gynar neu yn ddiweddar iawn., hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a barotoisant#24:1 a rhai gyd â hwynt A D; Gad. א B C L Brnd.. 2A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3Ond wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr#24:3 yr Arglwydd Iesu. Gad. D. Arglwydd Iesu#24:3 Dyma y cyfuniad cyntaf o'r geiriau. Cawn y geiriau ‘Arglwydd Iesu Grist’ yn fynych yn yr Actau a'r Epistolau.. 4A bu, a hwy mewn dyryswch#24:4 aporeô, llyth.: methu gwneyd eu ffordd; bod mewn anhawsder, bod yn ansicr, ddim yn gwybod pa beth i feddwl neu i wneyd, Marc 6:20; 2 Cor 4:8; Ioan 13:22; Gal 4:20 am y peth hwn, wele, dau wr a safasant#24:4 Gwel 2:9 yn sydyn gerllaw iddynt mewn gwisg#24:4 gwisgoedd llachar A C; gwisg lachar א B D Brnd. lachar#24:4 Llyth.: melltenog; yr oedd y wisg wen‐oleu yn dysglaerio fel goleuni mellten, llachar.. 5Ac wedi iddynt ddychrynu, a gostwng eu hwynebau i'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio yr hwn sydd yn fyw#24:5 Dad 1:18; Rhuf 6:9, 10 yn mysg y meirw? Nid#24:5 Gad. D. yw yma: ond efe a gyfododd#24:5 Salm 16:10, 11#24:5 Gad. D.: 6cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych ac efe eto yn Galilea, 7gan ddywedyd, Rhaid yw i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi#Mat 16:21; 17:22, 23.. 8A hwy a gofiasant ei eiriau ef#24:8 Er iddynt gael eu llefaru wrth yr Apostolion yn unig, daeth y gwragedd i'w gwybod. [[9:22; 18:32]], 9ac a ddychwelasant oddi#24:9 oddi wrth y bedd. Gad. D. wrth y bedd, ac a fynegasant yr holl bethau i'r Un‐ar‐Ddeg, ac i'r lleill oll: 10Mair Magdalen, a Johanna, a Mair mam Iago oeddynt#24:10 oeddynt hwy א B L X: Gad. A D. hwy: a'r gwragedd eraill gyd â hwynt a ddywedasant wrth yr Apostolion y pethau hyn. 11A'r geiriau#24:11 Neu, pethau. hyn a ymddangosent yn eu golwg fel ffiloreg#24:11 lêros, ofer siarad, gwag‐eiriau, ymddygiad pen‐wan. Mewn iaith feddygol, dynoda ymddygiad neu ymadroddion un yn colli arno ei hun. Yma yn unig.; ac nid oeddynt yn eu credu. 12Eithr#24:12 Felly א A B Al. [La.] [Tr.] [WH.]: Gad. D Ti. [Yn ol rhai, o Ioan 20:5]: ond y mae yr adnod yn ddiameu yn ddilwgr. Petr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd, ac wedi iddo ymgrymu y mae yn canfod yr amrwymau#24:12 othonion, llain o lian, &c., er amdoi y marw: rhwymyn am glwyf, &c. Yma yn unig. yn#24:12 wedi eu gosod [neu, yn gorwedd] A: Gad. א B. unig#24:12 Neu, wrthynt eu hunain.: ac efe a aeth ymaith i'w gartref, gan ryfeddu am y peth a ddarfuasai.
Ymddangosiad i ddau ddysgybl: eu hanobaith hwy, a thystiolaeth yr Ysgrythyr
13Ac wele, dau o honynt oedd yn myned yr un dydd i bentref, yr hwn oedd dri‐ugain#24:13 dri‐ugain A B D Brnd.: gant a thri‐ugain א [gan feddwl mai Emmaus, yr hon a elwid Nicopolis, ugain milltir o Jerusalem, oedd y lle, 1 Macc 3:40; 9:50]. ystâd o Jerusalem, o'r enw Emmaus. 14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'u gilydd am yr holl bethau hyn a ddygwyddasent. 15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymddadleu, yr Iesu ei hun hefyd, gan neshâu, oedd yn rhodio#24:15 Yr oedd yn rhodio wrth eu hochr cyn iddynt ei ganfod. gyd â hwynt: 16eithr eu llygaid hwynt a rwystrwyd#24:16 Krateô, dal yn dyn, cymmeryd gafael, dal yn ol, rhwystro. fel nas adwaenent ef. 17Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa eiriau yw y rhai yr ydych yn cyfnewid#24:17 Llyth.: bwrw yn mlaen ac yn ol, felly, trin, ymresymu, ymgomio. â'ch gilydd, wrth#24:17 Felly א A B L Brnd.: wrth rodio ac yn wyneb‐drist Δ. rodio? A hwy a safasant yn wyneb drist#24:17 Yma a Mat 6:16#24:17 Felly א A B L Brnd.: wrth rodio ac yn wyneb‐drist Δ.. 18Ac un, o'r enw Cleopas#24:18 Yr un a Cleopatros; ond nid yr un a Clopas (Ioan 19:25). Geilw Emrys enw y dysgybl arall, Ammaon., gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn byw fel ymdeithydd yn Jerusalem#24:18 Neu, A wyt ti ond dyn dyeithr yn Jerusalem? Gwel Eph 2:19; 1 Petr 1:17, ac ni wybuost y pethau a ddygwyddasant ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fath bethau? A hwy a ddywedasant wrtho, Y pethau am Iesu o Nazareth, yr hwn a ddaeth yn Broffwyd galluog mewn gweithred a gair#24:19 Act 2:22 gerbron Duw a'r holl bobl: 20a'r modd y traddododd ein Harch‐offeiriaid a'n Llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef. 21Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe ei hun oedd yr hwn oedd ar waredu#24:21 lutroô, gollwng yn rhydd ar dderbyniad pridwerth neu iawn, Num 18:15, 17; yna, gollwng yn rhydd, gwaredu; yma, gwaredu neu brynu iddo ei hun. gwel Titus 2:14; 1 Petr 2:18 yr Israel. Ië, yn ddiau, heblaw yr holl bethau hyn, hwn#24:21 heddyw A D: Gad. א B L. yw y trydydd dydd iddo#24:21 Llyth.: Y mae efe yn treulio [neu.: arwain] y trydydd dydd hwn, er pan, &c. Nid amser neu haul [yn arwain y dydd] yw y gwrthrych a feddylir, ond Crist. er pan ddygwyddodd y pethau hyn. 22Er hyny, hyd y nod rhai gwragedd o honom ni a'n llanwasant â syndod#24:22 Llyth.: un allan o hono ei hun gan syndod., wedi iddynt fyned gyd â'r wawr at y bedd; 23a phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd eu bod hyd y nôd wedi gweled gweledigaeth o Angelion, y rhai sydd yn dywedyd ei fod ef yn fyw. 24A rhai o'r rhai sydd gyd â ni a aethant ymaith at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, O rai anneallus#24:25 Gr. anoêtoi, rhai araf eu deall, pwl eu synwyr, anhyddysg. Y mae y cyfieithiad Ynfydion yn rhy gryf o lawer. Hyn a olyga moroi yn Mat 7:26; 23:17; neu aphrones yn Luc 11:40, ac araf#24:25 Yr oedd y deall yn dywyll, a'r galon yn wan, ac araf. Yma ac yn Iago 1:19 “araf i lefaru.” o galon i gredu ar sail#24:25 Neu, i gredu, ar ol yr holl bethau, &c. yr holl bethau a lefarodd y Proffwydi! 26Onid y rhai hyn yr oedd yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a myned i'w Ogoniant#24:26 Mat 27:54; Ioan 6:49–52; Act 17:3? 27A chan ddechreu o Moses#24:27 h. y. o'r Addewid Gyntaf yn Eden i lawr hyd y diweddglo yn Malachi. Yr addewid gyntaf, Gen 3:15; i Abraham 22:18: Oen y Pasc, Ex 12; y bwch diangol, Lef 16; y Sarff bres, Num 21; y Proffwyd mawr, Deut 18:15; y Seren a'r Deyrnwialen, Num 34:17; y Graig a darawyd, Num 20:11; 1 Cor 10:4; Gwel hefyd Salmau 2; 3; 16:8–11; 22; 31; 35:1–28; 38; 69; 110 &c. ac o'r holl Broffwydi#24:27 Immanuel, Es 7:14; Plentyn 9:6; yr oll o 53; Blaguryn, Jer 23:5; Etifedd Dafydd, Esec 34:23; Tywysog Bethlehem, Mic 5:2; y Brenin Gostyngedig, Zech 9:9; y Bugail a darewir, Zech 13:7; Angel y Cyfamod, Mal 3:1; Haul y Cyfiawnder, Mal 4:2. Gwel Farrar a McClellan., efe a esboniodd yn drwyadl iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun.
28A hwy a nesasant i'r pentref lle yr oeddynt yn myned: ac efe a ymddangosodd#24:28 prospoieô, hawlio neu honi i ddyn ei hun, proffesu, cymmeryd ar, ymddangos fel, &c., ffugio. Yr oedd Crist yn cymmeryd arno ei fod yn myned yn mhellach; a buasai yn myned onibai y cymhelliad taer iddo i aros. Yma yn unig. fel pe byddai yn myned yn mhellach. 29A hwy a'i cymhellasant#24:29 Llyth.: gorfodi trwy drais neu gryfder corff, yna, cymhell yn daer. Yr oedd y Dysgyblion yn deisyfu gymaint am bresenoldeb yr Ymdeithydd, fel yr oeddynt yn barod i'w orfodi ‘drwy nerth braich ac ysgwydd’ i aros gyd â hwynt. Gwel Act 16:15. ef yn daer, gan ddywedyd, Aros gyd â ni: canys y mae hi yn hwyrhâu, a'r dydd weithian#24:29 weithian א B L Brnd.: Gad. A D. wedi darfod: ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt. 30A bu, fel yr oedd efe yn eistedd i lawr i fwyta gyd â hwynt, efe a gymmerodd y bara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torodd, ac a roddodd iddynt. 31A'u llygaid hwy a lawn‐agorwyd, a hwy a'i hadwaenasant ef: ac efe a aeth yn Anweledig#24:31 Yn fynych yn y Beirdd Groegaidd, ond yma yn unig yn y T. N. Ni ddygwydda yn yr Apocrypha na'r LXX. oddi wrthynt. 32A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon yn llosgi ynom fel yr oedd efe yn llefaru wrthym ar y ffordd pan#24:32 a phan A P: pan א B D L. yr oedd efe yn llwyr-agoryd i ni yr Ysgrythyrau?
33A hwy a gyfodasant yr awr hono, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac a gawsant yr Un‐ar‐Ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyd â hwynt, 34yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd mewn gwirionedd, ac a ymddangosodd i Simon#1 Cor 15:5.. 35A hwy eu hunain oeddynt yn adrodd y pethau a ddygwyddasant ar y ffordd, a'r modd y daeth efe yn adnabyddus iddynt yn nhoriad y bara.
Y trydydd ymddangosiad: i'r Un‐ar‐Ddeg
[Marc 16:14; Ioan 20:19–23; Act 1:3–5; 10:39–42]
36Ac fel yr oeddynt yn llefaru y pethau hyn, Efe#24:36 yr Iesu A: Gad. א B D L Brnd. ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac#24:36 Felly א A B L La. Al. Tr. Diw.; Gad. D Ti.: rhai Hen Gyf. a ddarllenant “Myfi yw: nac ofnwch” P G Pesh. Vulg. a ddywed wrthynt, Tangnefedd i chwi#24:36 Felly א A B L La. Al. Tr. Diw.; Gad. D Ti.: rhai Hen Gyf. a ddarllenant “Myfi yw: nac ofnwch” P G Pesh. Vulg.. 37Hwythau, wedi brawychu#24:37 Gwel 21:9. Dynoda, brawychu, tarfu (megys adar). ac yn llawn ofn, oeddynt yn tybied eu bod yn craffu ar yspryd. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych wedi eich cythryblu, ac o herwydd paham y mae amheuon#24:38 Neu, ymresymiadau. yn cyfodi yn eich calon? 39Gwelwch fy nwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch#24:39 teimlo fel y gwna dyn dall, er cael gwybod pa le y mae, neu pa beth yw rhywbeth, ymbalfalu, “Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch,” Deut 28:29; “a deimlodd ein dwylaw am Air y Bywyd,” 1 Ioan 1:1; “Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano,” Act 17:27; Heb 12:18 fi, a gwelwch: nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn fel y daliwch sylw fod genyf fi. 40Ac#24:40 Felly א A B L La. Al. [Tr.] [WH.] Diw.: Gad. D Ti. wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed#24:40 Felly א A B L La. Al. [Tr.] [WH.] Diw.: Gad. D Ti.. 41Ac a hwy eto heb gredu o lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes genych yma beth a ellir fwyta#24:41 beth a ellir fwyta. Yma yn unig.? 42A hwy a roisant iddo ran o bysgodyn wedi ei rostio#24:42 ac o ddil mel N X [Al.] [Tr.]: Gad. א A B D La. Ti. WH. Diw.. 43Ac efe a'i cymmerodd, ac a'i bwytäodd yn eu gŵydd hwynt#24:43 ac a roddodd y gweddill iddynt K Vulg.. 44Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma fy ngeiriau a ddywedais i chwi, tra yr oeddwn eto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawnu pob peth sydd wedi ei ysgrifenu yn Nghyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau, am danaf fi. 45Yna efe a lwyr‐agorodd eu deall#24:45 Nous, meddwl, deall, rheswm, y gyneddf sydd yn canfod ac amgyffred: yn wahaniaethol oddi wrth yr ewyllys, y teimlad, y synwyrau, &c., fel y deallent yr Ysgrythyrau; 46ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y mae wedi ei ysgrifenu, bod#24:46 Fel hyn yr oedd yn rhaid A [La.]: Gad. א B C D Brnd. y Crist i ddyoddef, ac i adgyfodi o feirw y trydydd dydd, 47a bod edifeirwch a maddeuant pechodau i gael eu pregethu ar sail#24:47 Llyth.: ar. ei enw ef i'r holl genedloedd, gan ddechreu o Jerusalem#24:47 Neu, gan ddechreu o Jerusalem chwi ydych dystion o'r pethau hyn.. 48Chwychwi ydych dystion o'r pethau hyn. 49Ac wele, yr wyf yn anfon#24:49 anfon א A C D: anfon allan B L X. allan Addewid#24:49 Gwel Es 40:1, 3; Esec 36:26; Joel 2:8; Ioan 14; 15; 16 fy Nhâd arnoch: eithr aroswch yn dawel#24:49 Llyth.: eisteddwch i lawr, ymsefydlwch. yn y Ddinas#24:49 Jerusalem A X: Gad. א B C D L. hyd nes y gwisger chwi â gallu o'r Uchelder.
Yr Esgyniad
[Marc 16:19, 20; Act 1:6–14]
50Ac efe a'u harweiniodd hwynt allan hyd eu bod gyferbyn#24:50 gyferbyn [tu ag at, gwynebu] א B C D Brnd.; i Bethania A. a Bethania, ac efe a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt. 51A bu, tra yr ydoedd efe yn eu bendithio hwynt, yr oedd efe yn sefyll ar wahân â hwynt, ac#24:51 Gad. o ac … Nef D. a ddygwyd i fyny i'r Nef#24:51 Gad. o ac … Nef D.. 52A hwy a aethant#24:52 Gad. D. ar eu gliniau mewn addoliad iddo, ac a#24:52 Gad. D. ddychwelasant i Jerusalem gyd â llawenydd mawr: 53ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml yn#24:53 Felly א B C L: yn moli D Diw. bendithio Duw#24:53 Amen A B: Gad. א C D L Brnd..

ಪ್ರಸ್ತುತ ಆಯ್ಕೆ ಮಾಡಲಾಗಿದೆ:

Luc 24: CTE

Highlight

ಶೇರ್

ಕಾಪಿ

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in