Iago 4

4
PEN. IV.
1O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau#4:1 Cynhenau ac ymrysonau a feddylir, yn wrthwyneb i’r heddwch a ddywed amdano o’r blaen. yn eich plith? onid oddiyma, oddiwrth eich chwantau a frwydrant yn eich aelodau? 2Chwantwch, ond nid ydych yn cael; lladdwch a chenfigenwch,#4:2 Y drwg mwy yn gyntaf, lladd, ac yna yr hyn a arwain iddo, cenfigen. Y lladd oedd cynhen, ac ymryson. ond nid ellwch gyrhaeddyd; ymladdwch a rhyfelwch, ond nid ydych yn cael, am na ofynwch: 3gofynwch, ond ni dderbyniwch, o herwydd gofynwch ar gam,#4:3 Yn llythyrenol, yn ddrwg, a hynny o herwydd y dyben. fel y treulioch ef ar eich chwantau.
4Godinebwyr a godinebesau!#4:4 Sef, yn ysbrydol. Caru’r byd oedd y godineb. oni wyddoch fod cariad at y byd yn gasineb gan Dduw?#4:4 Attodiad Ff. “Cariad at y byd yn gasineb gan Dduw,” sef, yr hyn y mae Duw yn gasâu. Ond y cyfieithiad mwyaf llythyrenol ydyw hwn, “Oni wyddoch fod hoffedd y byd yn ddygasedd Duw?” Nid “cyfeillach” a feddylir, ond serch neu gariad at, neu hoffedd yn y byd; a hyn a wna Duw gasâu. Godineb ysbrydol y cyfeirir ato. Ac nid yw “gelyniaeth” yn addas yma, oddieithr i ni gyfieithu “yn elyniaeth gan Dduw,” sef y cyfrif Duw gariad at y byd yn elyniaeth, hyny yw, yn elyniaethol iddo, ac felly yn wrthddrych o gasineb. Pwy bynag gan hyny a fyno fod yn garwr byd, a gyfrifir yn elyn gan Dduw.#4:4 Neu, “a ddyfarnir yn ddygasddyn gan Dduw.” 5A dybiwch y llefara’r Ysgrythyr yn ofer?#4:5 Sef, ynghylch caru’r byd. Attodiad GYmhlith amryw egluriadau, y mwyaf boddhäol a roddir yma, yr hyn sydd unol â barn Calfin, Whitby, a Doddridge. “Ai at genfigen,” &c. neu, “Ai at genfigen y mae chwennychiad yr ysbryd a gartrefa ynom?” gofyniad yw a wada hyn yn y modd cadarnaf, a dengys yr anghysondeb mwyaf. ai at genfigen y tuedda’r Ysbryd a annedda ynom? 6Yn hytrach#4:6 Sef, na thueddu at genfigen. rhydd fwy o rad, o herwydd dywed, “Gwrthwyneba Duw y beilchion, ond rhydd rad i’r gostyngedig.”#4:6 Diar. 3:34, yn ôl y Deg a Thriugain, y cyfieithiad Groeg. Amrywia’r Hebraeg yn y rhan gyntaf, “Efe a watwar y gwatwarus:” ond y sylwedd sydd yr un.
7Ymostyngwch gan hyny i Dduw; gwrthwynebwch Ddiafol, a ffŷ oddiwrthych.#4:7 Rhaid yn gyntaf ymostwng i Dduw a bod dan ei nodded, yna gallwn wrthwynebu’r Diafol. 8Nesëwch at Dduw, ac atoch y nesâ;#4:8 Attodiad H. Nesâu at Dduw yw y peth mwyaf; a thuag at hyny glanhâu y dwylaw a phuro y galon; cyfeiriad at arfer yr offeiriaid yn y deml, yn ymolchi cyn gwasanaethu ynddi: gan y dywed yn adn. 2 eu bod yn lladd, hyny yw, yn cenfigenu, geilw arnynt i lanhâu eu law; a chan y coleddant ysbryd trachwant, gorchymyn iddynt buro eu calonau. glanhewch eich dwylaw, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonau, chwi o feddwl dauddyblyg:#4:8 Yn llythyrenol, “o ddwy enaid.” Y rhai “o ddwy enaid” yma oeddent am y byd ac am Dduw hefyd; ond yr un “o ddwy enaid” yn pen. 1:8, oedd yn sefyll rhwng credu ac anghredu. 9ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch; tröer eich chwerthin i alar, a’ch llawenydd i dristwch; 10ymddarostyngwch#4:10 Neu, “Ymiselhëwch.” gerbron yr Arglwydd, a derchafa chwi.
11Na absenwch#4:11 Absenu yw camgyhuddo, camachwyn, athrodi, enllibio. eich gilydd, frodyr: yr hwn a abseno ei frawd ac a farno ei frawd, absena y ddeddf a barna y ddeddf; ac os berni y ddeddf, nid wyt wneuthurwr o’r ddeddf ond yn farnydd. 12Un Deddfroddwr a Barnydd#4:12 Attodiad Ia Barnydd , felly yn ôl amryw o gopïau, a chydwedda â’r hyn a ganlyn; o herwydd “collfarnu” a berthyn i Farnydd, yn hytrach nag i Ddeddfroddwr. sydd, yr hwn a ddichon achub a chollfarnu: pwy wyt ti a ferni arall?
13Clywch yn awr y rhai a ddywedwch, “Heddyw neu yfory awn i’r cyfryw ddinas, ac aroswn yno flwyddyn, a marchnadwn ac ennillwn;” 14ond ni wyddoch beth a fydd yfory, canys beth yw eich bywyd? tarth yn ddiau ydyw, a ymddengys dros ychydig, ac yna diflana: 15yn lle hyn dylech ddywedyd, “Os myn yr Arglwydd, yna byw fyddwn a gwnawn hyn neu hyny.” 16Ond yn awr ymffrostio a wnewch yn eich rhyfyg:#4:16 Yn llythyrenol, “yn eich rhyfygiadau.” pob cyfryw ymffrost, drwg#4:16 Sef “y drwg” o annuwioldeb, gan y dynodai anghof o ragluniaeth Duw. ydyw. 17Am hyny y neb a wyddo wneuthur da, ac nis gwnelo, pechod yw iddo.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Iago 4: CJO

គំនូស​ចំណាំ

ចែក​រំលែក

ចម្លង

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល