Luc 14

14
Iacháu'r Dyn â Dropsi arno
1Aeth i mewn i dŷ un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth am bryd o fwyd; ac yr oeddent hwy â'u llygaid arno. 2Ac yno ger ei fron yr oedd dyn â'r dropsi arno. 3A llefarodd Iesu wrth athrawon y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddweud, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth, ai nid yw?” 4Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a'i iacháu a'i anfon ymaith. 5Ac meddai wrthynt, “Pe bai mab#14:5 Yn ôl darlleniad arall, asyn. neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni fyddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?” 6Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn.
Gwers i'r Gwesteion ac i Wahoddwr
7Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd: 8“Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi; 9oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, ‘Rho dy le i hwn’, ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf. 10Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd yn uwch’; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion. 11Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.” 12Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu. 13Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion; 14a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”
Dameg y Wledd Fawr
Mth. 22:1–10
15Clywodd un o'i gyd-westeion hyn ac meddai wrtho, “Gwyn ei fyd pwy bynnag a gaiff gyfran yn y wledd yn nheyrnas Dduw.” 16Ond meddai ef wrtho, “Yr oedd dyn yn trefnu gwledd fawr. Gwahoddodd lawer o bobl, 17ac anfonodd ei was ar awr y wledd i ddweud wrth y gwahoddedigion, ‘Dewch, y mae popeth yn barod yn awr.’ 18Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, ‘Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’ 19Meddai un arall, ‘Rwyf wedi prynu pum pâr o ychen, ac rwyf ar fy ffordd i roi prawf arnynt; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’ 20Ac meddai un arall, ‘Rwyf newydd briodi, ac am hynny ni allaf ddod.’ 21Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tŷ, ac meddai wrth ei was, ‘Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd â'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.’ 22Pan ddywedodd y gwas, ‘Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd’, 23meddai ei feistr wrtho, ‘Dos allan i'r ffyrdd ac i'r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhŷ; 24oherwydd rwy'n dweud wrthych na chaiff dim un o'r rheini oedd wedi eu gwahodd brofi fy ngwledd.’ ”
Cost Bod yn Ddisgybl
25Yr oedd tyrfaoedd niferus yn teithio gydag ef, a throes a dweud wrthynt, 26“Os daw rhywun ataf fi heb gasáu ei dad ei hun, a'i fam a'i wraig a'i blant a'i frodyr a'i chwiorydd, a hyd yn oed ei fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl imi. 27Pwy bynnag nad yw'n cario ei groes ei hun ac yn dod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl imi. 28Oherwydd os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau'r gwaith? 29Onid e, fe all ddigwydd iddo osod y sylfaen ac wedyn fethu gorffen, nes bod pawb sy'n gwylio yn mynd ati i'w watwar 30gan ddweud, ‘Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.’ 31Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, â deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil? 32Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd. 33Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod â'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi.
Halen Diflas
Mth. 5:13; Mc. 9:50
34“Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, â pha beth y rhoddir blas arno? 35Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”

Currently Selected:

Luc 14: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in