Ioan 18
18
Bradychu a Dal Iesu
Mth. 26:47–56; Mc. 14:43–50; Lc. 22:47–53
1Wedi iddo ddweud hyn, aeth Iesu allan gyda'i ddisgyblion a chroesi nant Cidron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a'i ddisgyblion. 2Yr oedd Jwdas hefyd, ei fradychwr, yn gwybod am y lle, oherwydd yr oedd Iesu lawer gwaith wedi cyfarfod â'i ddisgyblion yno. 3Cymerodd Jwdas felly fintai o filwyr, a swyddogion oddi wrth y prif offeiriaid a'r Phariseaid, ac aeth yno gyda llusernau a ffaglau ac arfau. 4Gan fod Iesu'n gwybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo, aeth allan atynt a gofyn, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” 5Atebasant ef, “Iesu o Nasareth.” “Myfi yw,” meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy. 6Pan ddywedodd Iesu wrthynt, “Myfi yw”, ciliasant yn ôl a syrthio i'r llawr. 7Felly gofynnodd iddynt eilwaith, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” “Iesu o Nasareth,” meddent hwythau. 8Atebodd Iesu, “Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd.” 9Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: “Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi.” 10Yna tynnodd Simon Pedr y cleddyf oedd ganddo, a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. Enw'r gwas oedd Malchus. 11Ac meddai Iesu wrth Pedr, “Rho dy gleddyf yn ôl yn y wain. Onid wyf am yfed y cwpan y mae'r Tad wedi ei roi imi?”
Iesu gerbron yr Archoffeiriad
Mth. 26:57–58; Mc. 14:53–54; Lc. 22:54
12Yna cymerodd y fintai a'i chapten, a swyddogion yr Iddewon, afael yn Iesu a'i rwymo. 13Aethant ag ef at Annas yn gyntaf. Ef oedd tad-yng-nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno. 14Caiaffas oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon mai mantais fyddai i un dyn farw dros y bobl.
Pedr yn Gwadu Iesu
Mth. 26:69–70; Mc. 14:66–68; Lc. 22:55–57
15Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad, 16ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn. 17A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau. 18A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.
Yr Archoffeiriad yn Holi Iesu
Mth. 26:59–66; Mc. 14:55–64; Lc. 22:66–71
19Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth. 20Atebodd Iesu ef: “Yr wyf fi wedi siarad yn agored wrth y byd. Yr oeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle y bydd yr Iddewon i gyd yn ymgynnull; nid wyf wedi siarad dim yn y dirgel. 21Pam yr wyt yn fy holi i? Hola'r rhai sydd wedi clywed yr hyn a leferais wrthynt. Dyma'r sawl sy'n gwybod beth a ddywedais i.” 22Pan ddywedodd hyn, rhoddodd un o'r swyddogion oedd yn sefyll yn ei ymyl gernod i Iesu, gan ddweud, “Ai felly yr wyt yn ateb yr archoffeiriad?” 23Atebodd Iesu, “Os dywedais rywbeth o'i le, rho dystiolaeth ynglŷn â hynny. Ond os oeddwn yn fy lle, pam yr wyt yn fy nharo?” 24Yna anfonodd Annas ef, wedi ei rwymo, at Caiaffas, yr archoffeiriad.
Pedr yn Gwadu Iesu Eto
Mth. 26:71–75; Mc. 14:69–72; Lc. 22:58–62
25Yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho felly, “Tybed a wyt tithau'n un o'i ddisgyblion?” Gwadodd yntau: “Nac ydwyf,” meddai. 26Dyma un o weision yr archoffeiriad, perthynas i'r un y torrodd Pedr ei glust i ffwrdd, yn gofyn iddo, “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?” 27Yna gwadodd Pedr eto. Ac ar hynny, canodd y ceiliog.
Iesu gerbron Pilat
Mth. 27:1–2, 11–14; Mc. 15:1–5; Lc. 23:1–5
28Aethant â Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg. 29Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, “Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?” 30Atebasant ef, “Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti.” 31Yna dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain.” Meddai'r Iddewon wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth.” 32Felly cyflawnwyd y gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros. 33Yna, aeth Pilat i mewn i'r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” 34Atebodd Iesu, “Ai ohonot dy hun yr wyt ti'n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?” 35Atebodd Pilat, “Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a'i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?” 36Atebodd Iesu, “Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.” 37Yna meddai Pilat wrtho, “Yr wyt ti yn frenin, ynteu?” “Ti sy'n dweud fy mod yn frenin,” atebodd Iesu. “Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd. Y mae pawb sy'n perthyn i'r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.” 38Meddai Pilat wrtho, “Beth yw gwirionedd?”
Dedfrydu Iesu i Farwolaeth
Mth. 27:15–31; Mc. 15:6–20; Lc. 23:13–25
Wedi iddo ddweud hyn, daeth allan eto at yr Iddewon ac meddai wrthynt, “Nid wyf fi'n cael unrhyw achos yn ei erbyn. 39Ond y mae'n arfer gennych i mi ryddhau un carcharor ichwi ar y Pasg. A ydych yn dymuno, felly, imi ryddhau ichwi Frenin yr Iddewon?” 40Yna gwaeddasant yn ôl, “Na, nid hwnnw, ond Barabbas.” Terfysgwr oedd Barabbas.
Currently Selected:
Ioan 18: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004