Ioan 8

8
A.D. 32. —
1 Crist yn achub y wraig a ddaliwyd mewn godineb: 12 yn pregethu ei fod ef ei hun yn oleuni y byd; ac yn gwirio ei athrawiaeth: 33 yn ateb yr Iddewon a ymffrostiai yn Abraham; 59 ac yn osgoi eu creulondeb hwy.
1A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: 2Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. 3A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, 4Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 5#Lef 20:10; Deut 22:22A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 6A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. 7Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, #Deut 17:7Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. 8Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. 9Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10A’r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 11Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.
12Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, #Pen 1:4, 9; 9:5; 12:35, 36, 46Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd. 13Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, #Pen 5:31Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir. 14Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; #Pen 7:28; 9:29chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. 15Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; #Pen 3:17; 12:47; 18:36nid ydwyf fi yn barnu neb. 16Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid #Pen 8:29nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 17Y #Deut 17:6; 19:15; Mat 18:16; 2 Cor 13:1; Heb 10:28mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn. 18Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac #Pen 5:37y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi. 19Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, #Pen 16:3Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: #Pen 14:7ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd. 20Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn #Marc 12:41y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac #Pen 7:30ni ddaliodd neb ef, am #Pen 7:8na ddaethai ei awr ef eto. 21Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a #Pen 7:34; 13:33chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 22Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 23Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, #Pen 3:31Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. 24Am hynny #Ad. 21y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. 26Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr #Pen 7:28cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; #Pen 3:32; 15:15a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. 27Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy. 28Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan #Pen 3:14; 12:32ddyrchafoch chwi Fab y dyn, #Rhuf 1:4yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac #Pen 5:19, 30nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond #Pen 3:11megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. 29A’r #Pen 14:10hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi: #Ad. 16ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef. 30Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, #Pen 7:31llawer a gredasant ynddo ef. 31Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir; 32A chwi a gewch wybod y gwirionedd, #Rhuf 6:18a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.
33Hwythau a atebasant iddo, #Mat 3:9; Ioan 8:39Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? 34Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #Rhuf 6:16, 20; 2 Pedr 2:19Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. 35Ac #Gal 4:30nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. 36#Rhuf 8:2Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir. 37Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am #8:37 nad oes le i’m gair i ynoch chwi.nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi. 38#Pen 5:19, 30; 14:10, 24Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau. 39Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, #Mat 3:9; Ioan 8:33Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, #Rhuf 2:28; 9:7Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. 40Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. 41Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: #Esa 63:16; 64:8; Mal 1:6un Tad sydd gennym ni, sef Duw. 42Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, #1 Ioan 5:1Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; #Pen 5:43; 7:28, 29oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. 43Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. 44#Mat 13:38; 1 Ioan 3:8O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac #Jwdas 6ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 45Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 46Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? 47#1 Ioan 4:6Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. 48Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a #Pen 7:20; 10:20bod gennyt gythraul? 49Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. 50Ac #Pen 5:41nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. 51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #Pen 5:24; 11:26Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth #8:51 byth.yn dragywydd. 52Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. #Heb 11:13Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth #8:52 byth.yn dragywydd. 53Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? 54Yr Iesu a atebodd, #Pen 5:31Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. 55Ond #Pen 7:28, 29nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. 56#Luc 10:24Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. 57Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? 58Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, #Esa 43:13yr wyf fi. 59Yna #Pen 10:31, 39; 11:8hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu #8:59 oedd guddiedig.a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, #Luc 4:30gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.

Currently Selected:

Ioan 8: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in