Boed i Dduw roi gwlith o’r awyr i ti,
a chnydau gwych o’r tir,
– digonedd o ŷd a grawnwin.
Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di,
a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen.
Byddi’n feistr ar dy frodyr,
a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen.
Bydd Duw yn melltithio pawb sy’n dy felltithio di,
ac yn bendithio pawb sy’n dy fendithio di!”