1
Genesis 26:3
beibl.net 2015, 2024
Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i’n mynd i roi’r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i’n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham.
Compare
Explore Genesis 26:3
2
Genesis 26:4-5
Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i’n mynd i roi’r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio. Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddwedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw’r gorchmynion, yr arweiniad a’r ddysgeidiaeth rois i iddo.”
Explore Genesis 26:4-5
3
Genesis 26:22
Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, a fuodd dim dadlau am hwnnw, felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. “Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.
Explore Genesis 26:22
4
Genesis 26:2
Dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i’r Aifft. Dos i’r wlad fydda i’n ei dangos i ti.
Explore Genesis 26:2
5
Genesis 26:25
Felly dyma fe’n codi allor yno ac yn addoli’r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma’i weision yn cloddio pydew yno hefyd.
Explore Genesis 26:25
Home
Bible
გეგმები
ვიდეოები