Ioan 16
16
1“Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych i'ch cadw rhag cwympo. 2Fe'ch torrant chwi allan o'r synagogau; yn wir y mae'r amser yn dod pan fydd pawb fydd yn eich lladd chwi yn meddwl ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw. 3Fe wnânt hyn am nad ydynt wedi adnabod na'r Tad na myfi. 4Ond yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych er mwyn ichwi gofio, pan ddaw'r amser iddynt ddigwydd, fy mod i wedi eu dweud wrthych.
Gwaith yr Ysbryd
“Ni ddywedais hyn wrthych o'r dechrau, oherwydd yr oeddwn i gyda chwi. 5Ond yn awr, yr wyf yn mynd at yr hwn a'm hanfonodd i, ac eto nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘Ble'r wyt ti'n mynd?’ 6Ond am fy mod wedi dweud hyn wrthych, daeth tristwch i lenwi eich calon. 7Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch. 8A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn; 9ynglŷn â phechod am nad ydynt yn credu ynof fi; 10ynglŷn â chyfiawnder oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad, ac na chewch fy ngweld ddim mwy; 11ynglŷn â barn am fod tywysog y byd hwn wedi cael ei farnu.
12“Y mae gennyf lawer eto i'w ddweud wrthych, ond ni allwch ddal y baich ar hyn o bryd. 13Ond pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn#16:13 Yn ôl darlleniad arall, at. yr holl wirionedd. Oherwydd nid ohono'i hun y bydd yn llefaru; ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a'r hyn sy'n dod y bydd yn ei fynegi i chwi. 14Bydd ef yn fy ngogoneddu i, oherwydd bydd yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi. 15Y mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais ei fod yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.
Troi Tristwch yn Llawenydd
16“Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i ddim mwy, ac ymhen ychydig wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld.” 17Yna meddai rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, “Beth yw hyn y mae'n ei ddweud wrthym, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’, ac ‘Oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad’? 18Beth,” meddent, “yw'r ‘ychydig amser’ yma y mae'n sôn amdano? Nid ydym yn deall am beth y mae'n siarad.” 19Sylweddolodd Iesu eu bod yn awyddus i'w holi, ac meddai wrthynt, “Ai dyma'r hyn yr ydych yn ei drafod gyda'ch gilydd, fy mod i wedi dweud, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’? 20Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y byddwch chwi'n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi'n drist, ond fe droir eich tristwch yn llawenydd. 21Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi'n cofio'r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i'r byd. 22Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe'ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch. 23Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi. 24Hyd yn hyn nid ydych wedi gofyn dim yn fy enw i. Gofynnwch, ac fe gewch, ac felly bydd eich llawenydd yn gyflawn.
Yr Wyf Fi wedi Gorchfygu'r Byd
25“Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych ar ddamhegion. Y mae amser yn dod pan na fyddaf yn siarad wrthych ar ddamhegion ddim mwy, ond yn llefaru wrthych yn gwbl eglur am y Tad. 26Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn fy enw i. Nid wyf yn dweud wrthych y byddaf fi'n gweddïo ar y Tad drosoch chwi, 27oherwydd y mae'r Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i a chredu fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw. 28Deuthum oddi wrth y Tad, ac yr wyf wedi dod i'r byd; bellach yr wyf yn gadael y byd eto ac yn mynd at y Tad.” 29Meddai ei ddisgyblion ef, “Dyma ti yn awr yn siarad yn gwbl eglur; nid ar ddameg yr wyt yn llefaru mwyach. 30Yn awr fe wyddom dy fod yn gwybod pob peth, ac nad oes arnat angen i neb dy holi. Dyna pam yr ydym yn credu dy fod wedi dod oddi wrth Dduw.” 31Atebodd Iesu hwy, “A ydych yn credu yn awr? 32Edrychwch, y mae amser yn dod, yn wir y mae wedi dod, pan gewch eich gwasgaru bob un i'w le ei hun, a'm gadael i ar fy mhen fy hun. Ac eto, nid wyf ar fy mhen fy hun, oherwydd y mae'r Tad gyda mi. 33Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004