Genesis 17
17
Enwaediad yn Arwydd y Cyfamod
1Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog;#17:1 Hebraeg, El Shadai. rhodia ger fy mron a bydd berffaith. 2Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.” 3Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud, 4“Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd, 5ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd. 6Gwnaf di'n ffrwythlon iawn; a gwnaf genhedloedd ohonot, a daw brenhinoedd allan ohonot. 7Sefydlaf fy nghyfamod yn gyfamod tragwyddol â thi, ac â'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau, i fod yn Dduw i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl. 8A rhoddaf y wlad yr wyt yn crwydro ynddi, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl, a byddaf yn Dduw iddynt.”
9Dywedodd Duw wrth Abraham, “Cadw di fy nghyfamod, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau. 10Dyma fy nghyfamod rhyngof fi a chwi, yr ydych i'w gadw, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl: y mae pob gwryw ohonoch i'w enwaedu. 11Enwaedir chwi yng nghnawd eich blaengrwyn, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngom. 12Dros eich cenedlaethau, fe enwaedir pob gwryw ohonoch sydd yn wyth diwrnod oed, boed wedi ei eni i'r teulu, neu'n ddieithryn heb fod yn un o'th ddisgynyddion, ond a brynwyd ag arian. 13Rhaid enwaedu'r sawl a enir i'r teulu, a'r sawl a brynir â'th arian; a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd yn gyfamod tragwyddol. 14Y mae unrhyw wryw dienwaededig nad enwaedwyd cnawd ei flaengroen, i'w dorri ymaith o blith ei bobl; y mae wedi torri fy nghyfamod.”
15Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw. 16Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.” 17Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?” 18A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!” 19Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac#17:19 Hebraeg, sachac, h.y., chwerthin. Cymh. Isaac. Felly hefyd yn 18:12, 13, 15; 21:6.. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl. 20Ynglŷn ag Ismael: yr wyf wedi gwrando arnat, a bendithiaf yntau a'i wneud yn ffrwythlon a'i amlhau'n ddirfawr; bydd yn dad i ddeuddeg tywysog, a gwnaf ef yn genedl fawr. 21Ond byddaf yn sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab y bydd Sara yn ei eni iti erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf.” 22Wedi iddo orffen llefaru, aeth Duw oddi wrth Abraham.
23Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael, a phawb a anwyd yn ei dŷ neu a brynwyd â'i arian, pob gwryw o deulu Abraham, ac enwaedodd gnawd eu blaengrwyn y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Duw wedi dweud wrtho. 24Yr oedd Abraham yn naw deg a naw mlwydd oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen, 25a'i fab Ismael yn dair ar ddeg oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen yntau. 26Y diwrnod hwnnw enwaedwyd Abraham a'i fab Ismael; 27ac enwaedwyd gydag ef holl ddynion ei dŷ, y rhai a anwyd i'r teulu a phob dieithryn a brynwyd ag arian.
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004