Ioan 2

2
PEN. II.
8 Crist yn troi’r dwfr yn wîn. 14 Yn gyrru y pryn-wyr a’r gwerth-wyr o’r deml, 19 Ac yn eu rhac-rybuddio am ei farwolaeth, ai ail-gyfodiad mewn dammeg am ddinistrio y deml ai hadaliadu mewn tridiau.
1 # 2.1-11 ☞ Yr Efengyl yr ail Sul ar ôl yr Ystwyll. A’r trydydd dydd y gwnaed priodas yn Cana Galilæa: a mam yr Iesu oedd yno.
2Galwyd yr Iesu hefyd, a’i ddiscyblion i’r briodas.
3A phan ballodd y gwîn, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt morr gwîn.
4Iesu a ddywedodd wrthi hi, Beth sydd i mi [a wnelwyf] â thi wraig? ni ddaeth fy awr i etto.
5Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaeth-wyr, Beth hynna a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
6Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini, wedi eu gosod yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob vn ddau ffircyn, neu dri.
7Iesu a ddywedodd wrthynt, llenwch y dyfr-lestri o ddwfr: a hwynt a’u llanwasant hyd yr ymyl.
8Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch ac lywodraeth-wr y wledd: a hwy a ddugasant.
9Pan brofodd llywodraeth-wr y wledd y dwfr yr hwn a wnaethid yn win, (canys ni wydde efe o ba le y cawsid: onid y gwasanaethwŷr y rhai a ollyngasent y dwfr a ŵyddent) llywodraeth-wr y wlêdd a alwodd ar y priod-fab,
10Ac a ddywedodd wrtho ef, pob dyn a esyd y gwin dâ yn gyntaf, a phan yfont yn dda, yna vn a fyddo gwaeth: tithe a gedwaist y gwin dâ hyd yr awr hon.
11Hyn o ddechreu gwrthiau a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilæa, ac a eglurodd ei ogoniant, a’i ddiscyblion a gredasant ynddo.
12Wedi hynny efe a aeth i wared i Capernaum, efe a’i fam, a’i frodyr, a’i ddiscyblion, ac nid arhosasant yno nemmor o ddyddiau.
13A Phasc yr Iddewon oedd yn agos, am hynny ’r aeth yr Iesu i fynu i Ierusalem.
14A efe #Math.21.12. Mar.11.15. Luc.19.45. a gafodd yn y Deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a newidwyr arian yn eistedd [yno.]
15Pan wnaeth efe fflangell o reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r Deml, y defaid hefyd, a’r ŷchen, ac a dywalltodd arian y newid-wŷr, ac a ddymchwelodd y byrddau.
16Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn gwerthu colomennod, dygwch y rhai hyn oddi ymma: na wnewch dŷ fy Nhâd i yn dŷ marchnat.
17A’i ddiscyblion ef a gofiasant fod yn scrifennedic, #Psal.69.9.Zêl dy dŷ di a’m hyssodd i.
18Yna’r Iddewon a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef: pa arwydd a ddangost di i ni, gan i ti wneuthur y peth hyn?
19Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, #Math.26.61. & 27.40. Mar14.58. & 15.29.dinistriwch y Deml hō, ac mewn tri-diau y cyfodaf hi trachefn.
20Yna’r Iddewon a ddywedasant, chwe blynedd a deugain y buwyd yn adailadu y Deml hon: ac a gyfodit ti hi mewn tri-diau?
21Ond efe a ddywedase am deml ei gorph.
22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddiscyblion ef a gofiasant iddo ef ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwynt a gredasant yr scrythur, a’r gair yr hwn a ddywedase yr Iesu.
23A phan oedd efe yn Ierusalem ar y Pasc yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled y gwrthiau y rhai a wnaethe efe.
24Ond nid ymddyriedodd yr Iesu iddynt am dano ei hun, am yr adwaene efe hwynt oll,
25Ac am nad oedd rhaid iddo wrth neb i destiolaethu am ddŷn, o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dŷn.

選択箇所:

Ioan 2: BWMG1588

ハイライト

シェア

コピー

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。