Genesis 34

34
PEN. XXXIIII.
2 Sichem mab Hemor yn treisio Dina 8 Hemor yn ei gofyn hi yn briod i Sichem. 22 Enwaediad y Sicemiaid wrth ddymuniad meibion Iacob, a thrwy eiriol Hemor. 25 Simeon a Lefi yn dial am aniweirdeb Sichem. 28 Iacob yn ceryddu ei feibion am eu gwaith yn dial.
1Yna Dina merch Lea, yr hon a ymddugase hi i Iacob, a aeth allan i weled merched y wlâd.
2Yna Sichem mab Hemor yr Hefiad tywysog y wlad [honno] ai canfu hi, ac ai cymmerth hi, ac a orweddodd gyd a hi, ac ai treisiodd.
3Ai feddwl ef a lŷnodd wrth Dina ferch Iacob: ie efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth [fodd] calon y llangces.
4Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dâd gan ddywedyd: cymmer y llangces hon yn wraig i mi.
5Yna Iacob a glybu [i Sichem] halogi Dina ei ferch, a’i feibion ef oeddynt gyd ai hanifeiliaid yn y maes: am hynny Iacob a dawodd a sôn hyd oni ddaethant hwy [adref]
6A Hemor tâd Sichem a aeth allan at Iacob, i ymddiddan ag ef.
7A meibion Iacob a ddaethant o’r maes, ac wedi clywed o honynt, ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, o blegit gwneuthur [o Sichem] ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd a merch Iacob, canys ni ddylessyd gwneuthur felly.
8A Hemor a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd, glynu a wnaeth meddwl Sichem fy mâb i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi attolwg yn wraig iddo ef.
9Ac ymgyfathrechwch a ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.
10Felly y presswyliwch gyd a ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi, trigwch a negeseuwch ynddi, a byddwch feddiannol o honi.
11Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thâd, ac wrth ei brodyr hi, cafwyf ffafor yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthif a roddaf.
12Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhyscaeth, neu roddiad, ac mi a roddaf fel y dywedoch wrthif: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.
13Yna meibion Iacob a attebasant Sichem, a Hemor ei dâd ef, ac a ymddiddanasant yn dwyllodrus, o herwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt.
14Ac a ddywedasant wrthynt hwy, ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededic, o blegit gwarthrudd [yw] hynny i ni.
15Ond yn hynn y cytunwn a chwi, os byddwch fel nyni, gan enwaedu pôb gwryw i chwi.
16Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, a chyd trigwn a chwi, a byddwn yn vn bobl.
17Ond oni wrandewch arnom ni i gael o honoch eich enwaedu, yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ymmaith.
18Ai geiriau hwynt oedd dda yng-olwg Hemor, ac yng-olwg Sichem mâb Hemor.
19Ac nid oedodd y llangc wneuthur y peth o blegit efe a roddase serch ar ferch Iacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dâd ef.
20Yna Hemor, a Sichem ei fab ef a aethant at borth eu dinas hwynt, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion hwynt, gan ddywedyd:
21Y gwyr hynn heddychol [ynt] hwy gyd a ni; ac a drigant yn y wlad [hon,] ac a wnant eu negesau [ynddi:] ac wele [y mae] y wlâd yn ehang o leoedd ger eu bron hwynt: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
22Ond yn hyn y cytuna y dynion a ni, i drigo gyd a ni, gan fod yn vn bobl, trwy enwaedu pôb gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededic.
23Eu hanifeiliaid hwynt, ai cyfoeth hwynt, ai holl yscrubliaid hwynt onid eiddo ni [fyddant] hwy? yn unic cytunwn a hwynt, fel y trigant gyd a ni.
24Yna ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef y gwrandawodd pawb a’r a oeddynt yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pôb gwryw [sef] y rhai oll a’r a oeddynt yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.
25A bu ar y trydydd dydd pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Iacob Simeon, a Lefi, brodyr Dina, bôb vn ei gleddyf, ac y ddaethant yn erbyn y ddinas yn hyderus, ac a laddasant bôb gwryw.
26 # Gene.49.6. Lladdasant hefyd Hemor, a Sichem ei fâb ef, a mîn y cleddyf: a chymmerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.
27Meibion Iacob a ddaethant ar y lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.
28Cymmerasant eu defaid hwynt, ai gwarthec, ai hassynnod hwynt, a’r hyn [oedd] yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes.
29Caeth-gludasant hefyd, ac yspeiliasant eu holl gyfoeth hwynt, ai holl blant hwynt, ai gwragedd hwynt, a’r hyn oll [oedd] yn y tai.
30Yna Iacob a ddywedodd wrth Simeon, ac wrth Lefi, trallodasoch fi gan beri i mi fod yn ffiaidd gan bresswylwyr y wlâd, gan y Canaaneaid a’r Phereziaid, a minne ag ychydic o wŷr: ymgasclant gan hynny yn fy erbyn, a thrawant fi, felly y difethir fi, mi a’m tŷlwyth.
31Hwythau a attebasant, ai megis puttain y gwnae efe ein chwaer ni?

ハイライト

シェア

コピー

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。