Genesis 30

30
PEN. XXX.
4 Rachel a Lea heb allu planta eu hunain yn rhoddi eu llaw-forwymon iw gwr, a’r rhai hynny yn planta. 15 Lea yn rhoddi i Rachel fandragorau am gael Iacob i gyscu gyd a hi. 27 Duw yn cyfoethogi Laban er mwyn Iacob. 31 Cyflog Iacob. 43 Ai gyfoeth.
1Pan welodd Rahel na phlantase hithe i Iacob: yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Iacob, moes feibion i mi, ac onid e mi [a fyddaf] farw.
2Yna’r enynnodd llid Iacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd: ai myfi [sydd] yn lle Duw? yr hwn a attaliodd ffrwyth [dy] grôth oddi wrthit ti.
3Yna y dywedodd hithe, wele fy llaw-forwyn Bilha, dôs i mewn atti hi, ’r hon a blanta ar fyng-liniau fi, fel y caffer plant i minne hefyd o honi hi.
4Felly hi a roddes ei llaw-forwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Iacob a aeth i mewn atti.
5A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fâb i Iacob.
6Yna Rahel a ddywedodd Duw am barnodd fi, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fâb: am hynny hi a alwodd ei henw ef Dan.
7Hefyd Bilha llaw-forwyn Rahel eilwaith a feichiogodd, ac a ymddûg yr ail mâb i Iacob.
8Yna Rahel a ddywedodd ymdrechais ymdrechiadau tra gorchestol a’m chwaer, [a] gorchfygais hefyd: A hi a alwodd ei enw ef Nephtali.
9Yna Lea a welodd beidio o honi a phlanta, ac a gymmerth ei llaw-forwyn Zilpha, ac ai rhoddes hi yn wraig i Iacob.
10Felly Zilpha llaw-forwyn Lea a ymddûg fâb i Iacob.
11Yna Lea a ddywedodd tyrfa a ddaeth: a hi a alwodd ei enw ef Gad.
12Hefyd Zilpha llaw-forwyn Lea a ymddûg yr ail mâb i Iacob.
13Yna Lea a ddywedodd yr ydwyf yn ddedwydd o blegit merched a’m cymmerant yn ddedwydd, a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14Ruben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaiaf gwenith, ac a gafodd Fandragorau yn y maês, ac ai dug hwynt at Lea ei fam ef: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, dyro attolwg i mi o Fandragorau dy fâb.
15Hithe a attebodd iddi, ai bychan [yw] dwyn o honot fyng-wr? ond dwyn a fynnit hefyd Fandragorau fy mâb? A Rahel a ddywedodd, cysced gan hynny gyd a thi heno a’m Fandragorau dy fâb.
16Yna Iacob a ddaeth o’r maês yn yr hwyr, a Lea a aeth allan iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd, attaf fi y deui: o blegit gan brynu i’th brynais a’m Fandragorau fy mâb. ac efe a gyscodd gyd a hi y nos honno.
17A Duw a wrandawodd ar Lea, a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mâb i Iacob.
18Yna Lea a ddywedodd, rhodd Duw fyng-obr [im,] o herwydd rhoddi o honof fi fy llaw-forwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Isacar.
19Lea hefyd a feichiogodd etto, ac a ymddûg y chweched mâb i Iacob.
20Yna Lea a ddywedodd, cynhyscaeddodd Duw fy fi a chynhyscaeth dda: fyng-ŵr a drig weithian gyd a mi, o blegit chwech o feibion a ymddygais iddo ef, a hi a alwodd ei henw ef Zabulon.
21Ac wedi hynny hi a escorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22Yna y cofiodd Duw Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chrôth hi.
23A hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: Duw a ddeleodd fyng-warthrudd.
24A hi a alwodd ei henw ef Ioseph, gan ddywedyd: yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fâb arall.
25A phan ymddugase Rahel Ioseph, yna Iacob a ddywedase wrth Laban: gollwng fi ymmaith fel yr elwyf i’m brô, ac i’m gwlad fy hun.
26Dyro fyng-wragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd a thi, fel yr elwyf ymmaith: o blegit ti a wyddost fyng-wasanaeth, yr hwn a wneuthum i ti.
27A Laban a ddywedodd wrtho, ôs cefais ffafor yn dy olwg [na syfl:] da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i, o’th blegit ti.
28Hefyd efe a ddywedodd, dogna dy gyflog arnaf a mi ai rhoddaf.
29Yntef a ddywedodd wrtho, ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dy di: a pha fodd y bu dy anifeiliaid ti gyd a’m fi.
30O blegit ychydic [oedd] yr hyn ydoedd gennit ti cyn fy [nyfod] i, ond yn lluossogrwydd y cynnyddodd [hynny:] o herwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di trwy fyng-waith i: bellach gan hynny pa brŷd y darparaf [ddim] hefyd i’m tŷ fy hun?
31Yna y dywedodd yntef, pa beth a roddaf i ti? ac Iacob a attebodd, ni roddi i mi ddim, ôs gwnei i mi y peth hyn, dychwelaf, bugeiliaf [a] chadwaf dy braidd di.
32Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddyw, gan nailltuo oddi yno bôb llwdn mân-frith, a mawr-frith, a phôb llwdn coch-ddu ym-mhlith y defaid, y mawr-frith hefyd a’r māfrith ym mhlith y geifr, a [hynny] a fydd fyng-hyflog.
33A’m cyfiawnder fy hun a destiolaetha gyd a mi o hyn allan ger dy fron di pan ddelych at fyng-obr i: yr hyn oll ni [byddo] fân-frith, neu fawr-frith ym mhlith y geifr, neu goch-ddu ym mhlith y defaid, lladrad [a fydd] hwnnw gyd a’m fi.
34Yna y dywedodd Laban, wele: ô na bydde [felly] a’r ôl dy air di.
35Ac yn y dydd hwnnw y nailltuodd efe y bychod traed-frithion, a mawr-frithon, a’r holl eifr mân-frithion, a mawr-frithion, yr hyn oll yr [oedd] gwynn arno, a phôb coch-ddu ym mhlith y defaid, ac ai rhoddes tann law ei feibion ei hun.
36Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun or Iacob: felly Iacob a borthodd yr rhann arall o braidd Laban.
37Yna Iacob a gymmerth iddo ei hun wiail o boplyswydd a chyll, a ffawyd, ac a ddirisclodd ynddynt ddiriscliadau gwynnion, gan ddatguddio y gwnning yr hwn [ydoedd] yn y gwiail,
38Ac a osododd y gwiail y rhai a ddirisclase efe yn y nentydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deue y praidd i yfed, ar gyfer y praidd fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.
39Felly y praidd a gyfebrasant wrth y gwiail, a’r praidd a hiliodd [rai] traed-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.
40Yna Iacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a ossododd wynebaw y praidd, at y traed-frithion, ac at, bôb cochddu ym mhlith praidd Laban: ac a ossododd ddiadellau iddo ei hun a’r nailltu, ac nid gyd a phraidd Laban y gosododd hwynt.
41A phôb [amser] y cyfebre y defaid cryfaf, Iacob a osode y gwiail o flaen y praidd yn y nentydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwiail.
42Ond pan gyfebre y praidd yn ddiweddar ni osode efe [ddim:] felly y diweddaraf oeddynt eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Iacob.
43A’r gŵr a gynnyddodd yn dra rhagorol: ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwynion, a gweision, a chamelod, ac Assynnod.

ハイライト

シェア

コピー

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。