Genesis 24

24
PEN. XXIIII.
1 Abraham yn peri iw was dyngu y ceisie wraig i Isaac o genedl Abraham. 12 Gweddi y gwâs, a’r arwydd llwyddiant a gafodd efe. 33 Ei ddiwydrwydd ef i wneuthur ewyllys ei feistr. 50 Atteb cenedl Rebecca. 58 Cydtundeb Rebecca i fyned at Isaac 67 Isaac yn priodi Rebecca.
1Ac Abraham oedd hên, wedi myned yn oedrannus, a’r Arglwydd a fendithiase Abraham ym mhob dim.
2A dywedodd Abraham wrth ei wâs hynaf [yn] ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r [a oedd] ganddo: #Gene.47.29.gosot yn awr dy law tann fy morddwyd.
3Fel y parwyf it dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd a Duw y ddaiar, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid y rhai ’r ydwyf yn trigo yn eu mysc.
4Ond i’m gwlad fy hun yr ei, at fyng-henedl fy hun yr ei di, ac a gymmeri wraig i’m mâb Isaac.
5A’r gwâs a ddywedodd wrtho ef, onid odid ni fynn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon, gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tîr y yr hwn y daethost allan o honaw?
6Yna y dywedodd Abraham wrtho, gwylia arnat rhac i ti ddychwelyd fy mâb mau-fi yno.
7Arglwydd Dduw y nefoedd yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhâd, ac o wlad fyng-henedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd a mi, ac a dyngodd wrthif gan ddywedyd: #Gene.15.7. gene.13.15.|GEN 13:15. gene.15.18.|GEN 15:18. gene.26.4îth hâd ti y rhoddaf y tîr hwnn, efe a enfyn ei angel o’th flaen di, fel y cymmerech wraig i’m mâb oddi yno.
8Ac os y wraig ni fynn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth y llw hwn: yn unic na ddychwel di fy mab i yno.
9A’r gwâs a osododd ei law tann forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y pêth hynn.
10A chymmerodd y gwâs ddec camel, o gamelod ei arglwydd, ac a aeth ymmaith: canys holl dda ei arglwydd [oedd] tann ei law ef: ac efe a gododd ac a aeth i Mesopotamia i ddinas Nachor.
11Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd or tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar bryd nawn, yng-hylch yr amser y bydde [merched] yn dyfod allan i dynnu dwfr.
12Ac efe a ddywedodd ô Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, gwna [i lwyddiant] ddigwyddo o’m blaen i heddyw: a gwna di drugaredd a’m meistr Abraham.
13Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwyr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr.
14Bydded mai’r llangces yr hon y dywedwyf wrthi gogwydda attolwg dy stên, fel yr yfwyf: os dywed hi ŷf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd, honno a ddarperaist i’th wâs Isaac: ac wrth hynn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd a’m meistr.
15A bu hynn: cynn darfod iddo lefaru, wele Rebecca yn dyfod allan, (yr honn a anesyd i Bethuel fab Milcha, gwraig Nachor, brawd Abraham) ai stên ar ei hyscwydd.
16A’r llangces [oedd] dêg odieth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod, a hi a aeth i wared i’r ffynnon, ac a lanwodd ei stên, ac a ddaeth i fynu.
17A’r gwâs a redodd iw chyfarfod, ac a ddywedodd: attolwg gad i mi yfed ychydic ddwfr o’th stên.
18A hi a ddywedodd ŷf fy meistr, a hi a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên ar ei llaw, ac ai diododd ef.
19Pan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd: tynnaf hefyd i’th gamelod hyd oni ddarffo iddynt yfed.
20Yna hi a fryssiodd, ac a dywalltodd ei stên i’r cafn, ac a redodd eil-waith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd iw holl gamelod ef.
21Felly y gŵr a synnodd oi phlegit hi, gan dewi, i wybod a lwyddase’r Arglwydd ei daith ef, ai nat do.
22A bu pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gŵr glust-dlws aur, yn hanner sicl ei phwys: a dwy fraichled aur iw dwylo hi, yn ddêc [sicl] eu pwys.
23Ac efe a ddywedodd, merch pwy [ydwyt] ti? mynega i mi attolwg: a oes lle i mi i leteu [yn] nhŷ dy dad?
24A hi a ddywedodd wrtho, myfi [ydwyf] ferch i Bethuel fâb Milcha yr hwn a ymddug hi i Nachor.
25Ac hi a ddywedodd wrtho ef [y mae] gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letteu.
26Yna y gŵr, a ymgrymmodd ac a addolodd yr Arglwydd,
27Ac a ddywedodd, bendigêdic fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd, ai ffyddlondeb, yr [ydwyf] fi ar y ffordd: dug yr Arglwydd fi [i] dŷ brodyr fy meistr.
28A’r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam fel [y buase] y petheu hynn.
29Ac i Rebecca’r [oedd] brawd, ai enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon.
30A phan welodd efe y glust-dlws, ar breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebecca ei chwaer yn dywedyd: fel hyn y dywedodd y gŵr wrthifi, yna efe a aeth at y gŵr, ac wele efe yn sefyll gyd ar camelod wrth y ffynnon.
31Ac efe a ddywedodd, tyret ti i mewn, ti fendigêdic yr Arglwydd, pa ham y sefi di allan? mi a baratoais y tŷ, a llê i’r camelod.
32Yna y daeth y gŵr i’r tŷ, ac yntef a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod, a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd ag ef.
33Yna y gosodwyd [bwyd] oi flaen ef i fwytta, ac efe a ddywedodd ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau: yna y dywedwyd traetha.
34Ac efe a ddywedodd gwâs Abraham [ydwyf] fi.
35A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd, canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwarthec, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac assynnod.
36Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddug fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi, ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll [oedd] ganddo.
37A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd: na chymmer wraig i’m mab i, o ferched y Canaaneaid, y rhai’r ydwyf yn trigo yn eu tîr.
38Ond ti a ei i dŷ fy nhâd, ac at fy nhŷlwyth, fel y cymmerech wraig i’m mâb.
39Yna y dywedais wrth fy meistr, onid odid ni ddaw’r wraig ar fy ôl:
40Yna y dywedodd wrthif, yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd a thi, ac a lwydda dy daith di: fel y cymmerech wraig i’m mab i o’m tylwyth fy hun, ac o dŷ fy nhâd.
41Yna y byddi rydd oddi wrth fy melldith, os ti a ddaw at fy nhŷlwyth: canys oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy melldith.
42A heddyw y daethum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awran yn llwyddo fy-nhaith, yr hon yr wyfi yn myned arni.
43Wele fi #Gene.24.13.yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a’r forwyn yr hon a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi: dod ti i mi attolwg ychydic ddwfr iw yfed oth stên:
44Ac a ddywedo wrthif finne, ŷf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod, bydded honno y wraig yr hon a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.
45Cyn darfod i mi ddywedyd yn fyng-halon, wele Rebecca yn dyfod allan, ai stên ar ei hyscwydd, a hi a aeth i wared i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna dywedais wrthi dioda fi attolwg.
46Hithe a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên oddi arni, ac a ddywedodd ŷf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd: felly’r yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod.
47A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, merch pwy [ydwyt] ti? hithe a ddywedodd merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddug Milcha iddo ef. Yna y gossodais y glust-dlŵs, wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi.
48Ac a ben-wyrais, ac a ymgrymmais i’r Arglwydd ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr iw fâb.
49Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd, a ffyddlondeb a’m meistr, mynegwch i mi, ac onid e, mynegwch i mi, fel y troiwyf ar y llaw ddehau neu ar y llaw asswy.
50Yna’r attebodd Laban, a Bethuel, ac a ddywedasant: oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn, ni allwn ddywedyd wrthit ddrwg, na dâ.
51Wele Rebecca o’th flaen, cymmer, a dôs, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.
52A phan glybu gwâs Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i’r Arglwydd.
53A thynnodd y gwas allan dlŷsau arian, a thlysau aur, a gwiscoedd, ac ai rhoddodd i Rebecca, rhoddodd hefyd [bethau] gwerthfawr iw brawd hi, ac iw mam.
54Yna y bwyttasant, ac yr yfasant, efe, a’r dynnion y rhai [oeddynt] gyd ag ef, ac a letteuasant, a chodasant yn foreu, ac efe a ddywedodd gollyngwch fi at fy meistr.
55Yna y dywedodd ei brawd, ai mam, triged y llangces gyd a ni ddeng-nhiwrnod o’r lleiaf, wedi hynny hi a gaiff fyned.
56Yntef a ddywedodd wrthynt, na rwystrwch fi gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith, gollyngwch fi, fel yr elwyf at y meistr.
57Yna y dywedasant, galwnn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.
58Felly y galwasant ar Rebecca, a dywedasant wrthi: a ei di gyd a’r gŵr hwn? a hi a ddywedodd af.
59Yna y gollyngasant Rebecca ei chwaer, ai mammaeth, a gwâs Abraham, ai ddynion:
60Ac a fendithiasant Rebecca, ac a ddywedasant wrthi: ein chwaer, bydd di fîl fyrddiwn: ac etifedded dy hâd borth ei gaseion.
61Yna y cododd Rebecca ai llangcessau, ac a farchogasant ar gamelod, ac a aethant ar ôl y gŵr, a’r gwâs a gymmerodd Rebecca, ac a aeth ymmaith.
62Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd #Gene.16.14. gene.25.11pydew, Laharoi ac efe yn trigo yn nhîr y dehau.
63Yna y daeth Isaac allan i fyfyrio yn y maes ym mîn yr hwyr, ac a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele gamelod yn dyfod.
64Rebecca hefyd a dderchafodd ei llygaid, ac wele Isaac, ac hi a ddescynnodd oddi ar y camel.
65A hi a ddywedodd wrth y gwâs pwy [yw] ’r gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? a’r gwâs a ddywedodd fy meistr [yw] efe: a hi a gymmerth foled, ac a ymwiscodd.
66A’r gwâs a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethe efe.
67Yna Isaac ai dûg hi i mewn i babell Sara ei fam, ac efe a gymmerth Rebecca i fod yn wraig iddo, ac ai hoffôdd hi, ac Isaac a ymgyssurodd ar ol ei fam.

ハイライト

シェア

コピー

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。