Genesis 22
22
PEN. XXII.
1 Duw yn profi ffydd Abraham, drwy orchymmyn iddo aberthu ei fab. Ac Abraham yn dangos ei ffydd ai vfydd-dod. 20 Hiliogaeth Nachor.
1Ac wedi y petheu hyn y bu i Dduw #Heb.11.17.brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham: yntef a ddywedodd wele fi.
2Yna y dywedodd [Duw] cymmer yr awran dy fâb yr hwn a hoffaist sef dy unic Isaac, a dos rhagot i dîr Moriah, ac offrymma ef yno yn boeth offrwm ar vn o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthit.
3Yna Abraham a foreugododd, ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd ag ef, ac Isaac ei fâb, ac a holltodd goed y poeth offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle yr hwn, a ddywedase Duw wrtho ef.
4Ac ar y trydydd dydd y derchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a wele y lle o hir-bell,
5Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau arhoswch chwi ymma gyd a’r assyn; a mi a’r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.
6Yna y cymmerth Abraham goed y poeth offrwm, ac ai gosododd ar Isaac ei fâb, ac a gymmerodd y tân a’r gyllell yn ei law ei hun, ac a aethant ill dau yng-hyd.
7Yna y llefarodd Isaac wrth Abraham ei dâd, ac a ddywedodd fy nhâd: yntef a ddywedodd wele fi fy mab: yna ebr ef wele dân a choed, ond mae oen y poeth affrwm?
8Ac Abraham a ddywedodd, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth affrwm, felly ’r aethant ill dau yng-hyd,
9Ac a ddaethant i’r lle’r hwn a ddywedase Duw wrtho ef, ac yno ’r adailadodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fâb, ac #Jam.2.21.ai gosododd ef ar yr allor ar uchaf y coed.
10Yna Abraham a estynnodd ei law ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fâb.
11Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham: yntef a ddywedodd weli fi.
12Ac efe a ddywedodd nac estyn di dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo, o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy unic fab oddi wrthif i.
13Yna y derchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele hwrdd yn [ei] ol, [ef] wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac ai hoffrymmodd yn boeth offrwm yn lle ei fâb.
14Ac Abraham a alwodd henw y lle hwnnw, ’r Arglwydd a wêl, am hynny y dywedir heddyw yn y mynydd y gwelir yr Arglwydd.
15Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd:
16Ac a ddywedodd i mi fy hun y tyngais medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad attaliaist dy unic fâb,
17Mai gan fendithio i’th fendithiaf, a chan amlhau’r amlhaf dy hâd, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn [sydd] ar lann y môr: a’th hâd a feddianna borth ei elynion.
18Ac #Gene.12.3. Gen.18.18.|GEN 18:18. Eccl.44.25.|SIR 44:25. act.3.25.|ACT 3:25. gal.3.8.yn dy hâd ti y bendithîr holl genhedloedd y ddaiar: o achos gwrando o honot ar fy llais i.
19Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau, a hwy a godasant, ac a aethant yng-hyd i Beer-sebah, ac Abraham a drigodd yn Beer-sebah.
20Darfu hefyd wedi y pethau hyn fynegu i Abraham gan ddywedyd: wele, dûg Milcha hithe hefyd blant i Nachor dy frawd.
21Hus ei gyntaf-anedic, a Buz ei frawd yntef, Cemuel hefyd tâd Aram.
22A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel:
23Bethuel hefyd a genhedlodd Rebecca, yr wyth hyn a blantodd Milcha i Nachor frawd Abraham.
24Ei ordderch-wraig hefyd, ai henw Reumah a escorodd hithe hefyd Tebah, a Gaham, a Thahas, a Mahacha.
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.