Genesis 20

20
PEN. XX.
Abraham yn gwladychu yng-wlad Gerar. 2 Abimelec yn dwyn ei wraig ef. 3 Duw yn bygwth Abimelec. 9 Abimelec yn beio ar Abraham. 11 Atteb Abraham. 14 Rhoddiad gwraig Abraham adref. 17 Duw yn iachau ty Abimelec trwy weddi Abraham.
1Ac Abraham a gychwynnodd oddi yno i dîr y dehau, ac a gyfanneddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.
2A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, fy chwaer yw hi: ac Abimelec brenhin Gerar a anfonodd, ac a ddug Sara.
3Yna y daeth Duw at Abimelec noswaith mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho: wele di yn farw am y wraig yr hon a gymmeraist, a hi yn berchen gŵr.
4Ond Abimelec ni nessase atti hi, ac efe a ddywedodd fy Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?
5Oni ddywedodd efe wrthif fi, fy chwaer yw hi? a hithe hefyd ei hun a ddywedodd fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fyng-halon, ac yng-lendid fy nwylo y gwneuthum hyn.
6Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breuddwyd, minne a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn, a mi a’th attaliais rhac pechu i’m herbyn: am hynny ni’th adewais i gyffwrdd a hi.
7Yn awr gan hynny dot ti y wraig trachefn i’r gŵr, o herwydd prophwyd yw efe, a phan weddio efe trosot, byddi fyw: ond oni roddi hi trachefn, gwybydd mai gan farw y byddi farw, ti a’r rhai oll ydynt eiddoti.
8Yna y cododd Abimelec yn foreu, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl betheu hyn wrthynt hwy, a’r gwyr a ofnasant yn ddirfawr.
9Galwodd Abimelec hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, beth a wnaethost i mi? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygyt bechod [mor] fawr arnafi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost a mi weithredoedd y rhai ni ddylesyd eu gwneuthur.
10Abimelec hefyd a ddywedodd wrth Abraham, beth a welaist, pan wnaethost y peth hynn?
11A dywedodd Abraham am ddywedyd o honofi yn ddiau nid [oes] ofn Duw yn y lle hwn: a hwynt a’m lladdant i o achos fyng-wraig.
12A hefyd yn wîr fy chwaer [yw] hi, merch fy nhâd, ond nid merch fy mam: ac y mae hi yn wraig i mi.
13Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy-nhad, yna y dywedais wrthi hi, dymma dy garedigrwydd yr hwn a wnei a mi ym-mhôb lle yr hwn y delom iddo; #Genes.12.13.dywet am danaf fi, fy mrawd yw efe.
14Yna y cymmerodd Abimelec ddefaid, a gwarthec, a gweision, a morwynion, ac ai rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig trachefn.
15A dywedodd Abimelec, wele fyng-wlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
16Ac wrth Sara y dywedodd, wele rhoddais i’th frawd fîl o [ddarnau] arian: wele efe yn orchudd llygaid it, yn erbyn y rhai oll [ydynt] gyd a thi, a phawb [arall] ac felly hi a geryddwyd.
17Yna Abraham a weddiodd a’r Dduw, a Duw a iachaodd Abimelec, ai wraig, ai forwynion; felly y plantent.
18O herwydd yr Arglwydd gan gaeu, a gaease ar bob croth yn nhŷ Abimelec o achos Sara gwraig Abraham.

ハイライト

シェア

コピー

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。