Logo YouVersion
Icona Cerca

Luwc 24:25-32

Luwc 24:25-32 CJW

Yna y dywedodd efe wrthynt, O rai difeddwl a hwyrfrydig i gredu pethau à ragfynegwyd oll gàn y proffwydi! Onid oedd raid i’r Messia ddyoddef fel hyn, a felly myned i fewn iddei ogoniant? Yna gàn ddechreu gyda Moses, a myned drwy yr holl broffwydi, efe á eglurodd iddynt yr holl rànau hyny o’r ysgrythyr à berthynent iddo ef ei hun. Pan ddaethant yn agos i’r pentref lle yr oeddynt yn ymdaith iddo, efe á gymerai arno ei fod yn myned yn mhellach. Hwythau á’i cymhellasant ef, gàn ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrâu, a’r dydd yn darfod. Ac efe á aeth i fewn i aros gyda hwynt. Tra yr oeddynt wrth y bwrdd yn nghyd, efe á gymerodd y dorth, ac á’i bendithiodd, ac á’i tòrodd, ac á rànodd iddynt. Yna eu llygaid hwynt á agorwyd, a hwy á’i hadnabuant ef; ac efe á ddiflànodd. A hwy á ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calonau yn llosgi ynom, tra yr ydoedd efe yn ymddyddan â ni àr y ffordd, ac yn egluro i ni yr ysgrythyrau?

Leggi Luwc 24