Logo YouVersion
Icona Cerca

Salmau 3:8

Salmau 3:8 SC1875

Iachawdwriaeth sydd yn eiddot Ti yn unig, Arglwydd mawr; Fel y gwlith disgyna’th fendith Ar dy bobl o’r nef i lawr. NODIADAU. Y mae tôn y salm hon yn bur wahanol i’r ddwy flaenorol. Am y cyfiawn a’r drygionus y traethir yn y gyntaf; am y Messiah a’i frenhiniaeth yn yr ail. Dafydd ei hun sydd yn hon, yn cwyno ac yn gweddïo o herwydd ei elynion a’i drallodion. Os yw teitl y salm yn gywir, fel y mae yn debyg ei fod, cyfansoddwyd hi pan oedd efe yn nyfnder y trallod trymaf a chwerwaf o holl drallodion ei fywyd — “pan ffodd efe rhag Absalom ei fab,” ac amryw o’i berthynasau, a rhai o’i gyfeillion penaf wedi troi yn fradwrus iddo, a chalonau gwŷr Israel yn gyffredinol wedi eu lladratta oddi arno. Felly, “Yr oedd pob llwybr wedi ’i gauad, Ond y llwybr ato ef.” Ac i’r llwybr hwnw y mae yntau yn troi at ei Dduw, i dywallt ei gŵyn ac i geisio ymwared. Cysur cryf i’r credadyn ydyw, nad oes un math o drallod a all ei oddiweddyd, nad oes iddo ymwared ac iachawdwriaeth yn ei Dduw, a bod iddo ryddid i fyned ato, a galw arno yn nydd ei drallod, ac addewid y bydd iddo Ef ei wrandaw a’i waredu. Y mae ei ffydd yn fuan yn buddugoliaethu ar ei ofnau, ac yn troi ei gŵynion yn gân o hyder a gorfoledd yn ei Dduw; a therfyna mewn dymuniad am i fendith Duw ei iachawdwriaeth orphwys ar ei bobl.

Video for Salmau 3:8

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Salmau 3:8