Logo YouVersion
Icona Cerca

I Versetti Biblici più popolari da Salmau 8

O Arglwydd Goruchaf! dy enw sydd fawr, A’th fawl yn ardderchog trwy’r nefoedd a’r llawr; Cydganed y nefoedd a’r ddaear dy glod, Tra’r nefoedd a’r ddaear yn berchen eu bod. NODIADAU. Pe buasai ymadroddion llawer o’r salmau mor dywyllion a chyfriniol a’u teitlau, ychydig iawn o ddefnydd a allasem ni ei wneyd o honynt. Nid oes gan ddeonglwyr Iuddewig a Christionogol ond amcan‐dybiau yn unig am ystyr y rhan fwyaf o honynt; ond diau fod ystyr ac amcan pob un yn ddealledig i’r cantorion a’r addolwyr yn amser y Salmydd. Tybiai rhai mai offeryn cerdd a ddygasai Dafydd gydag ef o Gath, pan fuasai yn aros yno am dymmor gydag Achis, oedd y Gittith; ac ereill, mai salm a gyfansoddwyd ar yr achlysur o fuddugoliaeth Dafydd ar Goliath o Gath ydyw; a bod yr ymadroddion “o enau plant bychain,” & c. (adn. 2), yn cadarnhau y dyb fod Dafydd yn edrych arno ei hun yn yr ornest hono yn ddim amgen na baban ar fron, mewn cymmhariaeth â Goliath. Ond y mae y ffaith bod Gittith yn deitl i’r salmau lxxxi. a lxxxvi. yn gwanhau nerth y dyb hon yn fawr. Y dybiaeth fwyaf rhesymol, dybiwn yw, naill ai mai enw yr offeryn cerdd ar yr hwn yr oedd y salmau a ddygent y teitl hwn i gael eu dadgan arno, neu enw yr alaw, neu y dôn, yr oeddynt wedi eu cymmhwyso iddi, ydoedd Gittith. Beth bynag am wir ystyr ac amcan y teitl, y mae ysbryd ac amcan y salm ei hun yn eglur ddigon. Gallem dybio oddi wrth fater a thôn y salm, ddarfod i Dafydd ei chyfansoddi pan oedd yn ieuangc, yn bugeilio praidd ei dad, yn fuan wedi ei eneinio i fod yn frenin ar Israel gan Samuel y prophwyd. “Daeth Ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd o’r dydd hwnw allan,” medd yr hanes (1 Sam xvi. 13); a dichon mai un o ffrwythau cyntaf yr ysbrydoliaeth dwyfol a ddaeth arno oedd y salm ragorol hon. Enaid yn cael ei lenwi âg ysbryd addoli wrth edrych ar fawredd a gogoniant Duw yn ngweithredoedd ei ddwylaw: y nefoedd a’r ddaear, a mawredd ei ymostyngiad grasol yn cydnabod dyn gwael, ac yn gosod y fath anrhydedd arno, sydd yn llefaru drwy y salm. Enaid yn addoli mewn syndod:— syndod yw y prif deimlad a amlygir ynddi. O enau y salm hon y cauodd y Gwaredwr eneuau y cablwyr hyny, y Phariseaid, a geisient ganddo geryddu y plant bychain yn y dyrfa a lefent “Hosannah i Fab Dafydd!” yn ei orymdaith i Ierusalem: Mat . xi. 25. Cymmhwysa Paul ( Heb . ii. 6, 7, 8) yr ymadroddion yn y salm am ddarostyngiad pob peth dan draed dyn at y Messiah, gan ddangos mai ynddo ef yn unig y cyflawnir hwynt yn eu llawn ystyr.

Piani di Lettura e Devozionali gratuiti relativi a Salmau 8