Galarnad Ieremia 3

3
PENNOD III.
1Myfi y gwr a welodd dristwch
Trwy wialen ei ddigllonedd:
2Myfi a arweiniodd ac a barodd rodio
Mewn tywyllwch ac nid mewn goleuni,
3Ac eto, yn fy erbyn y try,
Dadymchwelaf fi ei law bob dydd.
4Difäodd fy nghnawd a’m croen,
Drylliodd fy esgyrn;
5Adeiladodd i’m herbyn,
Ac amgylcha fi dlodi a lludded;#3:5 Arwydda y gair “fustl” yn gystal a “thlodi” neu anghen; ond y diweddaf yw y mwyaf cymhwys i’r lle hwn.
6Mewn tywyll leoedd y gosododd fi,
Fel meirwon oesoedd.#3:6 Sef, fel rhai wedi marw er oesoedd, heb obaith adfywiad ganddo.
7Argauodd o’m hamgylch fel nad elwyf allan,
Gwnaeth yn drom fy nghadwyn:
8Ië, pan waeddais ac y bloeddiais,
Cauodd allan fy ngweddi:#3:8 Dywed am amser a aeth heibio.
9Argauodd fy ffyrdd â cheryg nâdd,#3:9 Yn adnod 7, dywed iddo gael ei amgylchu fel mewn carchar a chadwyn drom am dano. Dywed yn awr i fur o geryg nadd gael ei godi i’w rwystro fyned ar hyd y ffyrdd a ddewisasai, ac felly tröed ef allan o’i lwybrau. Arferai y cyffelybiaethau hyn er dangos yr amryw drallodau a ddaethent iddo: ac i’r un dyben y mae y cyffelybiaethau a ganlynant. Ond nid iddo ei hun y rhan amlaf y perthynai yr hyn a ddywed, ond i’r genedl yn gyffredin.
Fy llwybrau a wyrodd.
10Arth yn cynllwyn y bu i mi,
Llew yn ei lochesau;
11Fy ffyrdd a wyrdrodd, a drylliodd fi,
Gwnaeth fi yn anghyfannedd;
12Annelodd ei fwa,
A gosododd fi fel nôd i’w saeth;
13Gwnaeth fyned i’m harennau
Saethau ei gawell:
14Buais yn wawd i’m holl bobl,
Eu cân bob dydd:
15Llanwodd fi â chwerwder,
Alarodd fi â wermod.
16Ië, treuliodd â graian fy nannedd,#3:16 Tebyg mai ymadrodd diarebol yw hwn, yn dynodi bywioliaeth wael.
Gorchuddiodd fi â llwch:
17A phell oddiwrth heddwch oedd fy enaid,
Anghofiais bob daioni;#3:17 Neu, hyfrydwch, neu, fwyniant.
18A dywedais, “Darfu fy rhagoriaeth,
A’m gobaith oddiwrth Iehofa.”
19Cofia fy nhristwch a’m hiseliad,#3:19 Gwel pen. 1:7
Y wermod a’r bustl;
20Gan gofio cofia — ,
Canys darostyngwyd ynof fy enaid:
21Hyn a ddygaf ar gof —
(Am hyny y gobeithiaf)
22 Sef trugareddau Iehofa, na therfynasant,
Gan na fethodd ei dosturiaethau:
23Adnewyddol ydynt yn y bore;
Mawr yw dy ffyddlondeb.#3:23 Cysylltiad y lle sydd fel ei gosodir yma. Tan y trallodau chwerwaf, adgofiai drugareddau Duw, nad oedd terfyn arnynt, oherwydd yr oedd ei dosturiaethau yn parhâu. Trwy ddyweyd eu bod yn “newydd yn y bore,” neu, yn y boreuau, (nid “pob bore” yr hyn nid yw wir,) yr un ystyr yw â’r hyn a ddywedir yn Ps. 30:5, yn ol nos o dristwch, daw bore o orfoledd; neu, yn ol nosau trallod daw boreuau ymwared. Gellir cyfieithu ad. 22, fel y canlyn, — Na therfynodd trugareddau Iehofa, Gan na fethodd ei dosturiaethau. Yr achos y gosodir “trugareddau” yn gyntaf, yw cadw y llythyren briodol i’r lle. Mwy eglur a rhwyddach yw r ymadrodd, os cyfnewidiwn drefn y geiriau. Cadw’r synwyr yw’r peth mwyaf mewn cyfieithiad.
24Fy rhan yw Iehofa, medd fy enaid;
Am hyny gobeithiaf ynddo:
25Da yw Iehofa i’r hwn a ddysgwyl wrtho,
I’r enaid sydd yn ei geisio;
26Da yw dysgwyl yn ddystaw
Am iachawdwriaeth Iehofa;
27Da i ddyn pan gymero
Yr iau yn ei ieuenctyd:
28Eistedded wrtho ei hun a bydded ddystaw,
Canys cyfododd hi arno;#3:28 “Hi,” sef yr iau.
29Rhodded yn y llwch ei enau,
Ysgatfydd fod gobaith;
30Rhodded i’w gurwr ei gern,
Llanwer ef â gwaradwydd:#3:30 Y rhai hyn oeddent gynghorion i’w gydgenedl.
31Canys nid yn dragywydd
Y bwrw Iehofa ymaith;
32Canys er y cystuddia, eto tosturia
Yn ol amledd ei drugaredd;
33Canys nid o’i galon y tralloda,
Nac y cystuddia feibion dynion,#3:33 Mae yma dri “chanys,” fel rhesymau am yr hyn a ddywedir yn flaenorol am ddaioni a thrugaredd Duw, a’n dyledswydd i ymostwng yn dawel tan ei geryddon.
34Gan fathru tan ei draed
Holl rwymedigion y wlad:#3:34 “Rhwymedigion y wlad” oedd y caethion.
35Gwyrdroi barn gŵr,
Ger bron wyneb y Goruchaf,
36Camwedda dyn yn ei achos, —
Nid yw Iehofa yn cymeradwyo.#3:36 Yn llythyrenol, “yn gweled.” Ond dywedir am Dduw yn gweled yr hyn sydd yn foddlawn ganddo, ac yn troi ei olwg oddiwrth yr hyn nad yw yn foddhäol iddo. Gwel Hab. 1:13. “Gŵyrdroi barn,” yw peidio cosbi y drygionus; “camweddu dyn” yw nacâu cyfiawnder iddo. Gan nad cymeradwy gan Dduw y pethau hyn, ni wna y cyfryw bethau ei hun. Eto tan ei lywodraeth y mae pob peth, fel y dangosir yn yr hyn a ganlyn.
37Pwy yw efe a ddywed y bydd dim,
Iehofa heb ei orchymyn?
38O enau y Goruchaf,
Oni ddaw y drwg a’r da?#3:38 Sef, adfyd a gwynfyd; y cyntaf yn gosb am bechod, a’r olaf yn rhodd rad Duw.
39Pam yr achwyn dyn,
Neb un byw, o herwydd ei bechod?#3:39 Sef, o herwydd y trallod a’r blinfyd a ddygai pechod.
40Dadguddiwn ein ffyrdd a chwiliwn,#3:40 “Dadguddiwn,” neu diorchuddiwn. Yr oedd megys llen dros eu ffyrdd, fel na welent hwynt. Cynghora eu dynoethi, ac wedi hyn eu chwilio.
A dychwelwn at Iehofa;
41Dyrchafwn ein calonau a’n dwylaw
At Dduw yn y nefoedd.
42Nyni, troseddasom a gwrthryfelasom;
Tydi, nid arbedaist;
43Mewn digofaint yr argauaist ac y dilynaist ni;
Lleddaist, nid arbedaist;#3:43 Y cyfeiriad sydd at helwyr, a yrent fwystfilod i leoedd cyfyng, gan eu dilyn yno a’u lladd heb arbed.
44Argauaist dy hun mewn cwmwl,
Rhag myned trwyddo ein gweddi:
45Yn sorod ac yn ysgubion ein gosodi,
Ymysg y bobloedd.
46Agorasant i’n herbyn eu genau,
Ein holl elynion;
47Dychryn a magl a ddaeth arnom,
Difrod a drylliad;
48Ffrydiau o ddwfr a ddiferodd fy llygad,
O herwydd drylliad merch fy mhobl.
49Fy llygad a ddylifodd ac ni pheidiodd,
Gan nad oes gorphwysfa,
50Hyd oni edrycho,
Ac y gwelo Iehofa o’r nefoedd:
51Fy llygad a effeithiodd ar fy enaid,#3:51 Ei “lygad” oedd yr hyn a welai ei lygad; hyn a effeithiai ar ei enaid, sef ei ysbryd neu ei galon. “Merched ei ddinas” oedd merched Ierusalem, sef ei thrigolion felly merch Sïon a ddynoda y bobl a drigent yn Sïon.
O herwydd holl ferched fy ninas.
52Gan hela helodd fi, fel aderyn,
Fy ngelynion, heb achos;#3:52 Crybwylla yn awr yr hyn a ddygwyddodd iddo ei hun, yr erlid, y trallod, a’r waredigaeth a gafodd, er ei gysur ei hun ac eraill o dan y blinderau a ddaethent iddynt. Sonia am farn ei erlidwyr er amlygu nad arbedai Duw y rhai a gaethiwent ac a orthryment Israel.
53Nychasant yn y pydew fy mywyd,
A bwriasant gareg arnaf;#3:53 Gwel Dan. 6:16, 17.
54Llifodd dyfroedd dros fy mhen,
Dywedais, “Torwyd fi ymaith.”
55Gelwais, ar dy enw, Iehofa,
O’r pydew iselaf;
56Fy llef a glywaist, — “Na chudd dy glust
Rhag fy uchenaid, rhag fy ngwaedd;”
57Nesëaist ar y dydd y gelwais arnat,
Dywedaist, “Nac ofna:”
58Dadleuaist, Iehofa, ddadlau fy enaid,
Gwaredaist fy mywyd;
59Gwelaist, Iehofa, fy ngham,
Barnaist fy marn;#3:59 Felly y cyfieitha y Deg a Thriugain. Y gwahaniaeth sydd mewn un lythyren: a’r ddwy ydynt debyg i’w gilydd. Yr un peth a ellir ddywedyd am “welaist” yn adn. 63. Diau mai anghywir yw y darlleniad cyffredin.
60Gwelaist eu holl ymddial,
Eu bwriadau i’m herbyn.
61Clywaist eu gwaradwydd, Iehofa,
Eu holl fwriadau tuag ataf, —
62Gwefusau fy ngwrthwynebwyr,
A’u sibrwd am danaf bob dydd;
63Eu heistedd a’u cyfodi a welaist,
Myfi oedd eu cân.
64Dychweli iddynt daledigaeth, Iehofa,
Yn ol gweithred eu dwylaw;#3:64 “Dychweli,” felly y dylid, fel y tybiaf, gyfieithu y gair. Rhagfynegu a wna, ac nid cyhoeddi melldith, neu weddïo am ddrygau.
65Rhoddi iddynt galedrwydd calon,
Dy felldith a fydd arnynt;
66Mewn digofaint ymlidi a dyfethi hwynt,
Odditan nefoedd Iehofa.

Áherslumerki

Deildu

Afrita

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in