Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Ioan 2:13-25

Ioan 2:13-25 DAFIS

Wedi hyn, âth e, i fam, i frodyr a'i ddisgiblion lawr i Capernaum, a aros fan 'ny am gwpwl o ddwarnode. We Gýyl Pasg ir Iddewon in agos, a fe âth Iesu lan i Jeriwsalem. In i demel gwelodd e bobl in gweerthu da, defed a colomenod, a we dinion in newid arian 'na 'fyd. So nâth e whip mas o dwein a'u hala nhwy i gyd mas o'r demel gida'u defed a'u da. Towlodd e newid mân i rhei we'n newid arian ar i llorie, diwel u fordydd nhwy, a gwedodd e wrth i rhei we'n gwerthu colomenod, 'Cewch â'r pethe 'ma o fan 'yn; peidwch troi tÿ in Dad in farcet ôl.’ Cofiodd i ddisgiblion bo'r Isgrithur in gweud, 'Bydd gofalu am di dÿ in drech na ti.’ Gwedo'r Iddewon wrtho fe, 'Beth alli di neud i ddangos i ni bo ti'n neud in iawn fan 'yn?' Atebo Iesu nhwy, 'Tinnwch chi'r demel 'ma lawr, a fe goda i 'ddi 'to miwn tri dwarnod.’ Gwedo'r Iddewon, 'On mae i wedi cwmrid whech mline a deugen i gofi'r demel. Neu di ddim i chodi 'ddi mewn tri dwarnod, neu di?' Ond wedd e'n sharad am i gorff fel temel. Pan gas e i godi o farw, wedyn cofiodd i ddisgiblion beth wedd e wedi'i weud; a credon nhwy'r isgrithur, a'r gair we Iesu wedi'i weud. Pan wedd e'n Jeriwsalem ar gownt Gýyl i Pasg credodd lot o bobol indo fe pan welon nhwy'r pethe wedd e'n u neud. Ond we Iesu ddim in galler mentro tystio i 'unan iddon nhwy, achos wedd e'n 'nabod pobol in iawn a we ddim ishe i neb weu 'tho fe am bobol, achos wedd e'n gwbod beth wedd indon nhwy.